AMDANAF I

Rydw i ar gael i helpu trigolion Gorllewin Caerdydd gydag addysg, yr amgylchedd, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth, a materion lleol eraill.

AMDANAF I

Cefais fy ngeni a’m magu yng ngorllewin Cymru cyn symud i Gaerdydd dros 40 mlynedd yn ôl. Ers hynny dwi wedi byw yn ardal Pontcanna, Caerdydd.
Yn gyn-swyddog prawf, gweithiwr cyfiawnder ieuenctid ac arweinydd prosiect Barnardos yn Nhrelái a Chaerau, rwyf wedi bod yn athro Polisi Cymdeithasol a Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd. Dysgais gynt hefyd ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn yr 1980au a’r 1990au, roeddwn yn Gynghorydd Llafur ar Gyngor Sir De Morgannwg, gan arbenigo mewn materion addysg, gan gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg. Rhwng 2000 a 2010, gweithiais fel cynghorydd iechyd a pholisi cymdeithasol y Cabinet yn Llywodraeth Cymru, ac yn ddiweddarach roeddwn yn bennaeth swyddfa wleidyddol y Prif Weinidog.

Fe ddes i’n Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerdydd ym mis Mai 2011 a chefais fy ailethol ym mis Mai 2016. Yn fuan ar ôl i’r Llywodraeth newydd gael ei ffurfio, cefais fy mhenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Ym mis Rhagfyr 2018, cefais fy ethol yn Arweinydd Llafur Cymru ac yn Brif Weinidog Cymru yn fuan wedyn.

Cafodd fy mhum mlynedd fel Prif Weinidog eu nodi gan gyfres o heriau byd-eang, gan gynnwys Brexit, coronafeirws, Wcráin a’r argyfwng costau byw. Er gwaetha’r heriau hyn, fe wnaethom fwrw ymlaen ag addewidion etholiad 2021: diwygio diogelwch tomenni glo, gwahardd plastigau untro, dileu elw preifat mewn gwasanaethau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, diwygio’r flwyddyn ysgol, diwygio’r dreth gyngor a gwneud ein strydoedd preswyl yn fwy diogel drwy gyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya. Hefyd, rydym wedi cyflawni buddsoddiad newydd uniongyrchol mewn ysgolion, gan gynnwys buddsoddiadau mawr yn ysgolion Cantonian, Riverbank, Woodlands a Fitzalan.

Ers rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog ym mis Mawrth 2024, rwy’n parhau i wasanaethu etholaeth Gorllewin Caerdydd a gweithio dros yr hyn a fydd nid yn unig yn gwneud byd o wahaniaeth heddiw, ond i genedlaethau’r dyfodol hefyd.

YNGLŶN Â GORLLEWIN CAERDYDD

Mae fy ngweledigaeth ar gyfer Gorllewin Caerdydd wedi’i gwreiddio yn fy nghredoau gwleidyddol am greu cymdeithas lle mae ffyniant yn cael ei greu a’i rannu, lle mae cyfleoedd yn cael eu dosbarthu’n deg a lle mae tlodi yn elyn i’w ddiddymu. Uchelgais Llafur ar gyfer Caerdydd a Chymru o hyd yw datblygu cymdeithas fwy cyfartal, lle gall pawb wneud y gorau o’u doniau a’u galluoedd a chyfrannu at fywyd ehangach y gymuned yr ydym yn byw ynddi.

Rwy’n cynrychioli etholwyr y wardiau canlynol: Glan-yr-Afon, Treganna, Trelái, Caerau, Tyllgoed, Llandaf, Radur a Phentre-Poeth, Pentyrch, Creigiau a Sain Ffagan.

Cyfryngau Cymdeithasol

‘Hoffwch’ a ‘Dilynwch’ fy nghyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrchoedd, y newyddion a'r buddsoddiadau diweddaraf yng Ngorllewin Caerdydd.

Load More

SUBSCRIBE FOR EMAIL UPDATES
Keep Updated
Subscribe to my email newsletter to get the latest news on Welsh Government investment and my community campaigns in Cardiff West.
Subscribe
I agree to the Privacy Policy and to receive email updates.

CYSWLLT

Fel eich Aelod o’r Senedd (AS), gallaf helpu etholwyr ar faterion amrywiol, megis addysg, yr amgylchedd, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, priffyrdd, trafnidiaeth a thai.

Defnyddiwch y ffurflen i gysylltu â mi. Cofiwch roi cymaint o fanylion â phosibl, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad a holl fanylion eich mater neu broblem.

Fel arall, mae croeso i chi ysgrifennu ataf: Senedd Cymru, Bae Caerdydd CF99 1SN, a 395 Cowbridge Road East, Treganna, Caerdydd, CF5 1JG.

CAPTCHA image

This helps us prevent spam, thank you.

SUBSCRIBE FOR EMAIL UPDATES
Keep Updated
Subscribe to my email newsletter to get the latest news on Welsh Government investment and my community campaigns in Cardiff West.
Subscribe
I agree to the Privacy Policy and to receive email updates.
SUBSCRIBE FOR EMAIL UPDATES
Keep Updated
Subscribe to my email newsletter to get the latest news on Welsh Government investment and my community campaigns in Cardiff West.
Subscribe
I agree to the Privacy Policy and to receive email updates.
We use cookies to improve your overall site experience. This includes personalising content, analysing site usage, and to assist in our marketing efforts. By continuing to use our site, you accept our use of cookies and Privacy Policy.
Contact Details
Privacy Policy
Accept