- Mehefin 24, 2015
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Mae’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, wedi cyflwyno ei gynlluniau i drawsnewid system hyfforddiant ac addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru.
Wrth sôn am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad yr Athro John Furlong, Addysgu Athrawon Yfory, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a’i gyhoeddi ym mis Mawrth, dywedodd y Gweinidog bod yr adroddiad yn dangos bod angen newid system addysg athrawon yng Nghymru yn sylfaenol.
Bydd y ffordd newydd ymlaen yn cynnwys diwygio’r safonau addysgu proffesiynol a gwella ansawdd y cyrsiau hyfforddiant cychwynnol sydd ar gael i athrawon drwy ailwampio’r broses cymwysterau addysgu ac achredu.
Dywedodd y Gweinidog bod angen i’r cynllun fod yn drylwyr ac yn bellgyrhaeddol er mwyn inni allu paratoi cenhedlaeth newydd o athrawon proffesiynol sydd â’r sgiliau i wireddu’r newidiadau mawr a fydd yn digwydd i gwricwlwm Cymru dros y blynyddoedd nesaf, a hynny yn sgil adolygiad Donaldson.
Gofynnwyd i’r Athro Furlong edrych yn fanwl ar y ffordd y mae hyfforddiant athrawon yn cael ei drefnu yng Nghymru ar hyn o bryd, a hefyd ar y dystiolaeth bod angen newid. Gofynnwyd iddo edrych ar y mesurau y mae eu hangen i gynnal system hyfforddiant ac addysg gychwynnol i athrawon sydd o safon ryngwladol, ac sy’n gallu cystadlu â goreuon y byd.