- Rhagfyr 21, 2015
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Bydd rhaglen newydd yn cael ei chyflwyno yng Nghymru i roi brechiad yn erbyn y Feirws Papiloma Dynol (HPV) i ddynion sy’n cael rhyw gyda dynion.
Daw’r penderfyniad ar ôl i’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, sy’n rhoi cyngor annibynnol ac arbenigol i lywodraethau’r DU, argymell cyflwyno rhaglen o’r fath.
Mae’r brechiad HPV yn diogelu pobl rhag mathau o’r feirws papiloma dynol sy’n gysylltiedig â chanser ceg y groth. Ers cyflwyno’r rhaglen frechu i ferched yn eu harddegau yn 2008, gwelwyd tystiolaeth y gallai brechu rhag HPV hefyd gynnig amddiffyniad rhag amrywiol fathau o ganser sydd o bosib yn fwy cyffredin ymysg dynion hoyw.
Bydd y rhaglen newydd wedi’i thargedu at ddynion 16 – 45 oed sy’n cael rhyw gyda dynion ac sy’n mynychu clinigau iechyd rhywiol arbenigol. Argymhelliad arall gan y Cyd-bwyllgor oedd y dylid cynnig y brechiad i bobl eraill sydd mewn perygl, gan gynnwys dynion dros 45 oed sy’n cael rhyw gyda dynion, gweithwyr rhyw a dynion a menywod HIV positif fesul achos unigol.
Mae’r Cyd-bwyllgor yn parhau i ystyried a fyddai’n fanteisiol cynnig y brechiad HPV i bob bachgen yn ei arddegau. Disgwylir argymhelliad yn gynnar yn 2017.
Yn rhinwedd ei swydd fel y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mae Mark wedi dweud:
“Ychydig iawn o amddiffyniad anuniongyrchol mae dynion sy’n cael rhyw gyda dynion yn ei gael o’r rhaglen frechu hynod lwyddiannus yn erbyn HPV i ferched yn eu harddegau.
“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi fy mod i wedi cymeradwyo cyflwyno rhaglen newydd i roi brechiad HPV i ddynion hyd at 45 oed sy’n cael rhyw gyda dynion eraill.
“Fe fyddwn yn ystyried yn ofalus sut i gyflawni’r rhaglen hon, ac yn gwneud cyhoeddiad pellach yn y man.”