- Mehefin 25, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category:
Heddiw, cafodd yr ymgyrch i greu canolfan fusnes ddeinamig a chyffrous yn Ardal Fenter Canol Caerdydd hwb o bob cyfeiriad – agorodd y Gweinidog y swyddfeydd yn Rhif 1 Capital Quarter ac fe gyhoeddodd y bydd yr Ardal yn cael statws Ardal a Gynorthwyir yr Undeb Ewropeaidd hefyd.
Wrth agor y datblygiad o swyddfeydd blaenllaw yng nghanol yr Ardal Fenter – fe’u hadeiladwyd gan y sector preifat a chawsant eu prynu gan Lywodraeth Cymru – dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi bod heddiw yn ddiwrnod mawr i Gaerdydd, Ardal Fenter Canol Caerdydd a sector y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol.
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae agor Rhif 1 Capital Quarter yn garreg filltir bwysig yn ein cynlluniau i sicrhau bod Ardal Fenter Canol Caerdydd yn creu swyddi, yn denu buddsoddiadau newydd ac yn lle gwych i fusnesau dyfu.
“Mae sicrhau bod swyddfeydd o’r radd flaenaf ar gael yn rhan hanfodol o’r cynllun a Rhif 1 Capital Quarter yw’r prosiect swyddfeydd Gradd A cyntaf i gael ei gwblhau ers creu’r Ardal.
“Rwy’n falch o weld bod help Llywodraeth Cymru wedi ysgogi mwy o fusnesau i fuddsoddi yn yr Ardal, a thros y tair blynedd nesaf, bydd dros 400,000 troedfedd sgwâr arall o swyddfeydd yn cael eu datblygu. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i’r Ardal.
“Pleser yw cael cyhoeddi hefyd bod y rhan fwyaf o’r Ardal – yn ogystal â rhan o Ardal Fenter Sain Tathan-Maes Awyr Caerdydd – bellach yn Ardaloedd a Gynorthwyir Llywodraeth Cymru sydd wedi cael sêl bendith yr Undeb Ewropeaidd.
“Gan fod hon yn Ardal a Gynorthwyir a bod cynlluniau ar waith i drydaneiddio’r rheilffordd i Lundain, mae’n gwneud y sector ariannol a phroffesiynol yn sector deniadol iawn i fuddsoddi ynddo.”
Dim ond dwy awr fyddai’n gymryd i gyrraedd Canary Wharf ar y trên o Gaerdydd a bellach, mae hyd yn oed mwy o gymorth ariannol ar gael i ddenu cwmnïau i fuddsoddi mewn Ardal Fenter sydd, am y tro cyntaf, yn ymrwymo’n llwyr i wasanaethau ariannol a phroffeisynol.