- Tachwedd 11, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Cafodd ymgyrch fawr gan Lywodraeth Cymru i helpu cwmnïau i fasnachu’n rhyngwladol hwb yr wythnos hon yn ystod yr Wythnos Allforio gyda 200 o gynadleddwyr yn cofrestru ar gyfer y digwyddiad mawr Explore Export yng Nghaerdydd – a’r nifer fwyaf erioed o Gymru yn teithio allan i’r Almaen ar gyfer Medica.
Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi ei bod yn falch iawn â’r nifer sydd wedi cofrestru ar gyfer Explore Export a bod y sector gwyddorau bywyd yn cymeryd mantais lawn o bresenoldeb Llywodraeth Cymru yn Medica – y digwyddiad MedTech mwyaf yn Ewrop.
Meddai’r Gweinidog:
“Mae annog a chefnogi busnesau i fasnachu’n rhyngwladol yn bwysig i Lywodraeth Cymru. Yn ogystal â’r digwyddiadau hyn, mae gennym hefyd daith fasnach amlsectoraidd yn mynd allan i Dubai ddydd Sadwrn ar yr un pryd â’r digwyddiad The Big 5 – y sioe fasnach fwyaf ar gyfer y diwydiant adeiladu yn y Dwyrain Canol.
“Mae hyn yn rhan o’n rhaglen eang o o deithiau masnach ac arddangosfeydd tramor sy’n derbyn cefnogaeth gan becyn cymorth cynhwysfawr i helpu busnesau i gael mynediad i farchnadoedd allforio newydd a chyfleoedd newydd.
“Mae’r ffigurau allforio diweddaraf yn dangos bod gan Gymru y cynnydd mwyaf mewn allforion o unrhyw un o wledydd y DU, gyda chynnydd mewn allforion yn yr UE a gwledydd y tu allan i’r UE, sy’n dangos ein strategaeth ar gyfer sicrhau canlyniadau.”
Cynhelir Explore Export ar 14 Tachwedd yn Neuadd y Ddinas ac mae’n adeiladu ar lwyddiant Diwrnod Masnach Ryngwladol y llynedd. Nodwedd amlwg Explore Export, sy’n derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru a Masnach a Buddsoddi y DU, fydd swyddogion masnachol o dros 60 o gwmnïau o dramor yn dod i Gaerdydd ar gyfer cyfarfodydd unigol gyda chwmnïau.
Mae Medica – digwyddiad pedwar diwrnod (Tachwedd12 -15) yn Dusseldorf yn denu dros 4600 o arddangoswyr a 132,000 o ymwelwyr masnach o 120 o wledydd ar draws pob cyfandir, gyda 53% o weldydd y tu allan i Ewrop.
Eleni roedd 87 o gynadleddwyr o Gymru yn cymeryd rhan – y nifer fwyaf hyd yma. Mae Llywodraeth Cymru yn noddi pafiliwn Cymru yn y Neuadd Ryngwladol, yn ogystal ag ail stondin yn y Neuadd Ddiagnosteg.
Daw yr Wythnos Allforio cyn Uwchgynhadledd Fuddsoddi y DU – Cymru 2014 (20-21 Tachwedd yng Ngwesty’r Celtic Manor) sy’n derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth y DU a Chymru, sy’n dod â dros 250 o fuddsoddwyr, arweinwyr busnes a gweinidogion ledled y byd at ei gilydd, ac yn ychwanegu at y sylw a roddwyd i Gymru yn ystod uwchgynhadledd NATO.