- Ionawr 28, 2015
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Dim Sylwadau
Mae darpar arddwyr sy’n aros am randir wedi cael hwb, ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei bod yn edrych ar gyfres o fesurau i wella’r mynediad at randiroedd a gerddi cymunedol yng Nghymru.
Mae canllawiau newydd ar fin cael eu paratoi, a fydd yn helpu i sefydlu safleoedd newydd, gwella’r dulliau o reoli safleoedd, lleddfu pryderon ynghylch cynllunio a rheoli rhestrau aros yn well.
Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant wedi dweud y caiff hyn ei wneud mewn partneriaeth â chynrychiolwyr y gymuned a llywodraeth leol er mwyn manteisio ar bob cyfle posibl i hyrwyddo a rhandiroedd a chynyddu eu nifer.