Gweinidog yn bryderus ynghylch cynnydd mewn sancsiynau budd-daliadau

Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi wedi mynegi ei phryder ynghylch y cynnydd sydyn yn y sancsiynau lles sy’n cael eu gosod ar lawer o bobl a allai fod yn fregus yng Nghymru.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog bod Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU wedi cynyddu pa mor aml y mae sancsiynau’n cael eu rhoi a pha mor llym ydynt.

Mae’r cynnydd hwn yn arbennig o amlwg ymysg y rheini sy’n hawlio’r budd-dal salwch, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA). Aeth yn ei blaen i ddweud bod nifer y sancsiynau hyn sy’n cael eu gwrthdroi yn y pen draw yn codi cwestiynau pwysig ynghylch eu defnydd.

Dengys data diweddar bod nifer y sancsiynau a roddwyd ar bobl Cymru sy’n hawlio ESA wedi cynyddu o tua 150 ym mis Mehefin 2013 i bron 400 ym mis Mehefin 2014. Mae chwarter y sancsiynau ESA a ddefnyddiwyd o dan y drefn ddiwygiedig yng Nghymru wedi cael eu hadolygu, ac mae bron hanner rheiny wedi cael eu gwrthdroi o blaid yr hawlydd.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi:

“Gallaf ddweud yn bendant bod Llywodraeth Cymru’n credu y dylai cyfrifoldebau fod yn gysylltiedig â thaliadau lles. Mae hynny’n bwysig er mwyn sicrhau bod gennym system les sy’n deg i bawb.

“Fodd bynnag, y gwir yw bod newidiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn peryglu pobl fregus. Mae nhw’n gwasgu incwm teuluoedd ac unigolion sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd i ddod i ben yn ariannol.

“Un o’r grwpiau sydd wedi’u heffeithio fwyaf yw aelwydydd sydd â phreswylwyr anabl oedran gweithio yn byw ynddynt. Mae llawer o’r bobl hyn yn aros am fisoedd am benderfyniadau ynghylch eu budd-daliadau anabledd newydd, ac ar ben hynny mae’n nhw hefyd mewn perygl o gael sancsiynau a gall hynny effeithio ar eu lles.”

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer y sancsiynau ESA wedi dyblu, a mwy – mae hyn yn achosi pryder mawr. Dyfarnwyd o blaid yr hawlydd mewn dros hanner yr achosion; mae’n rhaid i’r Adran Gwaith a Phensiynau edrych o ddifri ar y ffordd y maen nhw’n defnyddio sancsiynau.”

Ni all Llywodraeth Cymru lenwi’r bwlch ariannol mawr y mae Whitehall wedi’i greu, ond mae’n gwneud popeth yn ei gallu i helpu pobl Cymru rhag cael eu heffeithio’n ormodol gan y newidiadau.

Mae’n dal i ganolbwyntio ar hybu sgiliau a swyddi trwy fentrau fel Twf Swyddi Cymru, sydd wedi helpu i greu dros 16,000 o gyfleoedd gwaith i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, ac Esgyn, sydd â’r nod o helpu 5,000 o bobl sydd wedi bod yn ddiwaith yn yr hirdymor i ddod o hyd i swydd neu hyfforddiant. Eleni, rhoddodd Llywodraeth Cymru £2 filiwn i helpu gwasanaethau cynghori rheng-flaen annibynnol sy’n helpu pobl i ymdopi â phroblemau’n ymwneud â budd-daliadau, dyledion, tai a chamwahaniaethu.

Hefyd, yn 2013-14, rhoddodd Llywodraeth Cymru £20 miliwn o arian ychwnaegol i adeiladu tai fforddiadwy un a dwy lofft er mwyn helpu i leddfu effeithiau’r ‘Dreth Ystafell Wely’. Yn ogystal, ers mis Ebrill eleni, mae dros dros £4.9 miliwn o Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru wedi cael ei rannu ymysg 17,000 o bobl.

Roedd sylwadau’r Gweinidog yn rhan o’r drafodaeth ehangach ar ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU. Dywedodd::

“Byddaf yn dal ati i herio Llywodraeth y DU ac yn pwyso am system les deg. Yn y cyfamser, rydym yn gorfod datrys y problemau y mae hyn wedi’u hachosi.

“Dylai bob un ohonom fod yn bryderus ynghylch effeithiau’r newidiadau i fudd-dadliadau ar les unigolion, teuluoedd a chymunedau. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i helpu pobl i reoli a pharatoi ar gyfer y dyfodol, ac yn gwneud popeth y gallwn ni i helpu pobl Cymru rhag cael eu heffeithio’n ormodol gan y newidiadau.”