- Rhagfyr 17, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Wrth i’r penwythnos olaf cyn y Nadolig agosáu, mae’r Swyddogion Cymorth Cymunedol sydd wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru, a’r Swyddogion Cymorth Cymunedol sydd wedi’u hariannu o gyllid craidd, yn cefnogi’r swyddogion arferol i ddiogelu defnyddwyr a phawb sy’n mynd i bartïon rhag troseddau.
Mewn canolfannau siopa ac ar y strydoedd fawr ledled y wlad, mae’r timau’n sicrhau bod ganddynt fwy o bresenoldeb. Byddant yn cynnig cyngor ar gadw pyrsiau, waledi, a’r hyn y mae pobl yn ei brynu yn ddiogel, yn ogystal â sut i gymryd gofal ar nosweithiau allan yn y tafarndai a’r clybiau.
Gan weithio ar y cyd â swyddogion y camerâu teledu cylch cyfyng (CCTV), a swyddogion diogelwch drwy gyswllt radio sy’n gweithio yn y siopau, bydd Swyddogion Cymorth Cymunedol yn parhau i gydweithio â busnesau i atal lladrata ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd gorsafoedd symudol yr heddlu’n cael eu rhoi mewn meysydd parcio ceir i ganiatáu mwy o batrolio rheolaidd yn y parciau manwerthu, a bydd y Swyddogion Cymorth Cymunedol yn cadw golwg am ladron mewn siopau.
Bydd timau o Swyddogion Cymorth Cymunedol yn patrolio canol trefi, gan ddefnyddio’r gorsafoedd symudol fel mannau sefydlog i allu siarad â siopwyr am achosion o ddwyn o fagiau, defnyddio alcohol yn ddiogel, lladrata, a sgamiau ar-lein.
Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus:
“Mae rôl y 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol, sydd wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn hanfodol.
“Maent yn cyfrannu at sicrhau mwy o bresenoldeb ar y strydoedd ochr yn ochr â Swyddogion yr Heddlu, a’r Swyddogion Cymorth Cymunedol sydd wedi’u hariannu gan yr heddlu. Mae hynny’n helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau ar lefel isel ar yr adeg brysur hon o’r flwyddyn.”