- Rhagfyr 3, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Mae cynllun sgorio hylendid bwyd Cymru yn cael ei ymestyn i fusnesau masnachu, fel gweithgynhyrchwyr bwyd a chynhyrchwyr cyfanwerthu sy’n gwerthu bwyd i fusnesau eraill, meddai’r Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething.
Cyflwynwyd y cynllun statudol yng Nghymru, y cyntaf yn y DU, ym mis Tachwedd 2013.
Mae Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i fusnesau bwyd sy’n gwerthu bwyd yn uniongyrchol i gwsmeriaid – bwytai, tafarndai, caffis a gwestai, yn ogystal ag archfarchnadoedd – ddangos eu sgôr hylendid bwyd.
Drwy’r estyniad, a ddaeth i rym ar ben-blwydd cyntaf y Ddeddf, bydd busnesau masnach bwyd sy’n cael eu harolygu o 28 Tachwedd 2014 yn cael sgôr hylendid bwyd am y tro cyntaf. Hefyd byddant yn cael sticer yn dangos y sgôr sy’n rhaid ei arddangos ar eu safleoedd.
Hefyd mae’n rhaid i’r busnesau a’u staff ddweud wrth eu cwsmeriaid beth yw’r sgôr os cânt eu holi. Mae hyn yn berthnasol i sefyllfaoedd wyneb yn wyneb yn ogystal â thros y ffôn.
Os na fyddant yn arddangos y sticer sgôr hylendid bwyd, efallai y byddant yn cael hysbysiad cosb benodol neu’n cael eu herlyn.
Dywedodd Mr Gething:
“Mae’r cynllun sgôr hylendid bwyd yn llwyddiant mawr. Heddiw, rwy’n cadarnhau ein bod wedi ymestyn y cynllun ymhellach i gynnwys gweithgynhyrchwyr bwyd a darparwyr cyfanwerthu nad ydynt yn gwerthu bwyd yn uniongyrchol i’r cyhoedd.
“Mae hwn yn gam pwysig a fydd yn rhoi mwy o sicrwydd i fusnesau a defnyddwyr.”
Mae cyflwyno’r Ddeddf flwyddyn yn ôl wedi cael effaith gadarnhaol ar safonau hylendid bwyd yng Nghymru. Mae mwy na 50% o fusnesau bwyd yng Nghymru wedi cael sgôr o bump, sy’n golygu “da iawn”, ac mae nifer y busnesau bwyd â sgôr llai na boddhaol yn lleihau.
Mae gan fwy na 92% o fusnesau bwyd yng Nghymru sgôr cyffredinol foddhaol neu’n well.
Ychwanegodd Mr Gething:
“Mae’r gofyniad i fusnesau arddangos eu sticeri hylendid bwyd yn cael yr effaith a ragwelwyd o ran codi sgoriau hylendid bwyd.
“Rwy’n falch iawn o weld y gostyngiad yn nifer y busnesau bwyd â sgôr isel. Mae hyn yn dda i bobl Cymru ac i fusnesau bwyd yng Nghymru.
“Rwy’n cydnabod bod awdurdodau lleol wedi bod yn gwneud gwaith pwysig i wneud y cynllun hwn yn llwyddiant, o ystyried eu cyllidebau llai a’r ffaith bod ganddynt lai o adnoddau.”