- Medi 16, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Wythnos diwethaf cyhoeddodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, ei fod wedi ad-drefnu ei gabinet. Dywedodd fod ei gabinet newydd yn barod i ganolbwyntio ar y dewisiadau anodd sydd o’u blaenau er mwyn sicrhau gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf i Gymru, ac er mwyn parhau i wella’r economi’r wlad.
Mae Leighton Andrews yn dychwelyd i’r Llywodraeth, i swydd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus. Carl Sargeant yw’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol erbyn hyn a Lesley Griffiths yw’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Mae Edwina Hart, Huw Lewis a Mark Drakeford yn cadw eu cyfrifoldebau, ac mae Jane Hutt bellach hefyd yn gyfrifol am Fusnes y Llywodraeth. Janice Gregory yw’r Prif Chwip o hyd.
Bydd y Dirprwy Weinidogion profiadol Ken Skates a Vaughan Gething yn cael cyfrifoldebau newydd, sef Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i Ken Skates, ac Iechyd i Vaughan Gething.
Bydd y Prif Weinidog yn parhau i fod yn gyfrifol am y Gymraeg, am faterion cyfansoddiadol ac am hyrwyddo Cymru dramor.
Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog:
“Mae’r cabinet hwn yn llawn o’r sgiliau a’r profiad sy’n angenrheidiol i fwrw ati â’r newidiadau sydd eu hangen ar Gymru yn ystod y misoedd allweddol sydd ar ddod. Fe wnaethon ni addo mai tymor o gyflawni pethau fyddai hwn, ac rwy’n falch o’r hyn rydyn ni wedi llwyddo i’w wneud yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae diweithdra yn is yn fan hyn nag yn Lloegr. Rydyn ni wedi gweld y ffigurau gorau erioed o ran denu buddsoddiadau i Gymru, a’r canlyniadau gorau eto gan ein disgyblion yn eu harholiadau. Ar ben hynny, rydyn ni wedi cyflwyno deddfwriaeth sy’n torri tir newydd. Ond mae llawer iawn i’w wneud eto, yn enwedig er mwyn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus.
“Rwy’n diolch o waelod calon i John Griffiths, Jeff Cuthbert a Gwenda Thomas wrth iddyn nhw adael y Llywodraeth. Rwy wedi gwerthfawrogi eu gwaith caled, eu cyngor a’u teyrngarwch ac yn edrych ymlaen at eu gweld yn parhau i gyfrannu i’n gwleidyddiaeth ac i fywyd cyhoeddus Cymru. Rwy’n croesawu Julie James i’r Llywodraeth, ac yn estyn croeso i Leighton Andrews yn ôl i’r cabinet.”
Y Cabinet yn llawn:
Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC – Prif Weinidog Cymru
Edwina Hart AC OStJ MBE – Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Yr Athro Mark Drakeford AC – Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Huw Lewis AC – Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Jane Hutt AC – Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Leighton Andrews AC – Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Lesley Griffiths AC – Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Carl Sargeant AC – Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Vaughan Gething AC – Y Dirprwy Weinidog Iechyd
Ken Skates AC – Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Rebecca Evans AC – Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Julie James AC – Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Janice Gregory AC – Prif Chwip