- Gorffennaf 22, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi lansio’r cyfnod enwebu ar gyfer Gwobrau Dewi Sant y flwyddyn nesaf. Mae’n galw ar bobl Cymru i fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod y bobl eithriadol yn eu sectorau ac yn eu cymunedau.
Cynhaliwyd digwyddiad arbennig i lansio Gwobrau 2015 yn y Sioe Frenhinol, Llanelwedd. Roedd rhai o enillwyr y llynedd yno, fel Robin Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr y Village Bakery yn Wrecsam; Yaina Samuels, cynghorydd caethiwed i gyffuriau a Karin Williams, swyddog patrol ffordd a ddangosodd ddewrder eithriadol drwy neidio i’r ffordd i amddiffyn plant bach pan gollodd gyrrwr reolaeth ar ei gar o flaen Ysgol Gynradd Rhws.
Sefydlwyd y gwobrau hyn i gydnabod gweithredoedd a chyfraniadau pobl ym mhob maes. Gofynnir i’r cyhoedd enwebu’r bobl, y timau neu’r grwpiau sydd, yn eu barn nhw, yn eithriadol oherwydd eu cyfraniad a’u hymdrechion, er lles eraill ac er lles y wlad yn gyffredinol.
Mae naw categori o wobrau; dinasyddiaeth; diwylliant; menter; arloesedd a thechnoleg; chwaraeon; gwobr person ifanc; gwobr ryngwladol a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog, a gyflwynir i enillydd o ddewis y Prif Weinidog ei hunan.
Yn seremoni’r llynedd yn y Coleg Cerdd a Drama, Caerdydd, cafwyd cyflwyniad llawn emosiwn pan roddwyd Gwobr y Prif Weinidog i drigolion Machynlleth am iddynt ddangos ysbryd cymunedol mor hynod yn ystod y chwilio am April Jones.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Roedd seremoni wobrwyo’r llynedd yn brofiad cwbl arbennig ac ysbrydoledig. Roedd y talent, y brwdfrydedd a’r haelioni a welais ym mhob rhan o Gymru yn wefreiddiol i mi.
“Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau chwilio nawr am enillwyr y flwyddyn nesaf. Wrth weld y gydnabyddiaeth a roddwyd i enillwyr y llynedd, rwy’n gobeithio y bydd pobl yn penderfynu enwebu rhywun y maen nhw’n adnabod, sy’n haeddu’r anrhydedd mawr hwn.”
Roedd Robin Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr y Village Bakery ac enillydd gwobr entrepreneuriaeth y llynedd, yn y lansiad i siarad am ei brofiadau ers iddo ennill.
Dywedodd:
“Mae’r balchder yn y Village Bakery ers ennill Gwobr Dewi Sant wedi bod yn hwb anferthol i’r ysbryd ac mae’n wych i’r busnes! Roedd y noson wobrwyo yn ffantastig – ges i gwrdd â phobl wirioneddol arbennig a rhai o fy arwyr!
“Mae Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod y gorau o Gymru ac rwy’n gofyn i chi enwebu’r unigolyn arbennig, sy’n gwneud gwir wahaniaeth i’n cenedl.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Gwobrau Dewi Sant. Bydd y cyfnod enwebu’n cau am hanner nos ar 28 Hydref 2014.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni fis Mawrth 2015.