- Tachwedd 27, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Am yr ail flwyddyn o’r bron, mae’r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, wedi cyhoeddi na fydd prisiau tocynnau trên yng Nghymru yn cael codi’n fwy na chwyddiant.
Ni fydd y cynnydd cyfartalog a ganiateir ym mhrisiau tocynnau trên rheoledig yn cael codi’n fwy na RPI mis Gorffennaf (2.5%), hynny ar lein masnachfraint Cymru a’r Gororau. Daw’r cynnydd i rym ym mis Ionawr 2015, yn unol â’r drefn dros y ffin.
Cyhoeddodd y Gweinidog ei bod am ddileu’r “rheol hyblyg”, sef y rheol sy’n caniatáu i gwmnïau trên godi pris tocynnau 2% yn fwy na’r cynnydd cyfartalog cyn belled â bod y cyfartaledd cyffredinol yn aros yr un lefel â’r RPI.
Meddai Mrs Hart:
“Bydd hyn yn cadw prisiau tocynnau i lawr ac yn sicrhau cysondeb. Mae Llywodraeth Cymru’n deall bod pobl o dan bwysau ariannol ac am yr ail flwyddyn o’r bron, rydym wedi gweithredu i gadw tocynnau trên yng Nghymru o fewn cyrraedd pocedi pobl. Mae ein system drenau’n helpu llawer o bobl i gael at waith a gwasanaethau ac rydym am annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”