- Mawrth 11, 2015
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Yn y Senedd, cafodd deddfwriaeth bwysig ei phasio a fydd yn mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Dyma’r ddeddfwriaeth gyntaf o’i bath yn y DU a’r unig gyfraith o’i bath yn Ewrop i roi ffocws penodol ar drais yn erbyn menywod.
Gofynnodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, i Weinidogion Cymru gefnogi’r darn “cryf a phwerus” hwn o ddeddfwriaeth a fydd yn atal achosion o gam-drin ac yn diogelu ac yn cefnogi’r rheini sydd wedi goroesi trais yng Nghymru.
Dywedodd:
“Dyma ddeddfwriaeth hollbwysig sy’n rhoi Cymru ar flaen y gad wrth fynd i’r afael â’r troseddau ofnadwy hyn. Mae un o bob pedair menyw yng Nghymru wedi profi trais neu wedi cael ei cham-drin mewn perthynas, a phob blwyddyn, mae 150 o fenywod yn marw yn y DU dan law eu partner neu eu cyn-bartner.
“Ers i’r Bil gael ei gyflwyno, mae Llywodraeth Cymru wedi ei atgyfnerthu mewn ymateb i awgrymiadau gan y sector a’r gwrthbleidiau.
“Gan fod y Bil bellach ar y ffordd i fod yn Ddeddf, bydd yn helpu i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac yn diogelu ac yn cefnogi’r rheini sydd wedi goroesi. Heb os, bydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl sy’n agored i niwed yng Nghymru.
“Rwy’n falch dros ben fod y Bil wedi cael ei basio. Bydd yn achub bywydau.”
Dywedodd Eleri Butler, Prif Weithredwr Cymorth i Fenywod:
“Mae Cymorth i Fenywod yn croesawu’r ddeddfwriaeth newydd hon, ac rydyn ni’n credu y bydd yn ein helpu i sicrhau newid cymdeithasol a diwylliannol yng Nghymru i atal cam-drin domestig, trais rhywiol a phob math o drais yn erbyn menywod.
“Mae nifer fawr o fenywod dal yn cael eu lladd ar draws y DU o ganlyniad i’r hyn y credwn sy’n achosion o drais gan ddynion, felly mae’n hollbwysig gwneud yn si?r bod gan wasanaethau cyhoeddus fel iechyd, tai a gwasanaethau cymdeithasol, ddyletswydd i atal achosion fel hyn rhan digwydd yn y lle cyntaf.
“Ein gobaith yw y bydd y ddeddfwriaeth hon yn sicrhau bod atal hyn yn ddyletswydd ar bawb, wrth hyrwyddo addysg ar berthynas iach i’r gymuned gyfan, dan oruchwyliaeth Ymgynghorydd Cenedlaethol.
“Bydd y Bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau gydweithio i newid agweddau ac ymddygiad, ac i helpu pobl i adnabod yr arwyddion yn gynt ac ymateb mewn modd mwy effeithiol i bob un sy’n goroesi achosion o drais a cham-drin, fel y gall rhagor o fywydau gael eu hachub.”