- Rhagfyr 11, 2015
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category:
Gyda help Llywodraeth Cymru, mae cwmni o Gaerdydd – TrakCel Ltd.- cwmni sy’n arloesi ym maes biodechnoleg, yn gallu ehangu a chreu 20 o swyddi newydd.
Mae hyn wrth iddo lansio system olrhain soffistigedig iawn sy’n cael ei defnyddio mewn treialon sy’n ymwneud â therapïau celloedd a meddygaeth atgynhyrchiol.
Mae’r cyllid yn dilyn gwerthusiad llwyddiannus gan GlaxoSmithKline (GSK) o blatfform meddalwedd TrakCel ac o ganlyniad, mae GSK, ynghyd â chwmnïau blaengar eraill yn y diwydiant therapïau celloedd, wedi mabwysiadu’r feddalwedd.
Mae’r prosiect, fydd yn creu 20 o swyddi newydd dros gyfnod o ddwy flynedd, wedi cael o £125,000 o gyllid busnes gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu’r cwmni i uwchraddio o Ymchwil a Datblygu i fasnacheiddio. Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n cyflogi 15 o bobl gan gynnwys arbenigwyr biodechnoleg, dylunwyr meddalwedd ac arbenigwyr cymorth technegol.
Dros y 3 blynedd ddiwethaf, mae TrakCel wedi bod yn datblygu ei brosesau rheoli therapïau celloedd a thechnolegau integreiddio cadwyni cyflenwi arloesol iawn er mwyn bodloni anghenion cymhleth iawn treialon clinigol sy’n cynnwys rheoli data arbenigol, cofnodi a dadansoddi.
Gyda meddalwedd TrakCel, mae modd sicrhau bod y claf cywir yn cael y therapi cywir a hynny ar yr amser iawn ac yn y lleoliad iawn. Mae’n ymgorffori technolegau fel biometrigau ac adnabod amledd radio; mae’n recordio ac yn cofnodi cludiant a thymheredd therapïau personol atgynhyrchiol a therapïau celloedd ac yn cydlynu’r trefniadau logisteg rhwng safleoedd manwerthu a thriniaeth mewn amser real.
Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi:
“Mae therapïau celloedd a meddyginiaeth atgynhyrchiol yn faes arbenigol iawn sy’n tyfu’n gyflym iawn hefyd a hynny ledled y byd. Rwy’n hapus iawn bod Cymru’n parhau i chwarae rôl bwysig iawn yn y datblygiad hwn.
“Mae cymorth Llywodraeth Cymru yn helpu i ddenu cwmnïau blaengar iawn ac arbenigwyr ymchwil yn y maes hwn i Gymru a hefyd, mae’n gallu helpu i annog arbenigeddau cwmnïau cynhenid fel TrakCel.
“Mae hwn yn brosiect sylweddol a strategol bwysig iawn gan gwmni y mae ei bresenoldeb yn fwyfwy amlwg yn y farchnad therapïau celloedd byd-eang. Rwy’n hapus dros ben bod Llywodraeth Cymru’n gallu helpu TrakCel i barhau i dyfu yma yng Nghymru.”
Dywedodd Keren Winmill, Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol TrakCel.
“Bydd yr arian hwn yn ein helpu i gael yr adnoddau sydd eu hangen arnom ni i ddatblygu ein technolegau ymhellach o’n pencadlys corfforaethol yng Nghaerdydd.”
“Mae gan gwmnïau fferyllol mawr pwysig o UDA a Phrydain ddiddordeb mawr yn ein cynhyrchion felly bydd y cyllid hwn yn ein helpu i dyfu’n fasnachol wrth inni ehangu i farchnad fyd-eang.”
Ynghyd â GSK, mae TrakCel Ltd wedi diogelu contractau gan gwmnïau adnabyddus eraill fel PCT Caladrius, Autolus a The Cell Therapy Catapult.
Ym mis Tachwedd eleni, lansiodd TrakCel Ltd raglen ‘Gwasanaethau Cysylltiedig’ a’i nod yw gwella platfform TrakCel er mwyn cyflymu llwyddiant therapïau celloedd. Er mwyn ei helpu i wneud hyn, bydd yn cysylltu â’r cwmnïau sy’n cymryd rhan ac sy’n arbenigo mewn logisteg, cynhyrchu therapïau celloedd, trin cleifion, storio, cydymffurfiant a thasgau hanfodol eraill sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi.