- Hydref 6, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Mae mwy na 12,000 o bobl ifanc wedi cael hwb tuag at yrfa newydd, diolch i raglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru, yn ôl cyhoeddiad a wnaed gan Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau.
Cychwynnodd y rhaglen ym mis Ebrill 2012. Y nod oedd creu a llenwi 12,000 o gyfleoedd gwaith dros dair blynedd. Mae‘r nod hwn wedi ei gyrraedd ynghynt na’r disgwyl.
Dengys ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru bod 15,625 o gyfleoedd gwaith wedi’u creu a bod 12,298 o swyddi gwag wedi’u llenwi gan Twf Swyddi Cymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
“Dwi wrth fy modd bod cymaint o gwmnïau, dros ystod eang o ddiwydiannau, yn sylweddoli beth yw manteision y rhaglen hon. Dros y misoedd nesaf, dwi’n gobeithio ymweld â chwmnïau ledled Cymru i weld sut y mae Twf Swyddi Cymru yn helpu cyflogwyr a phobl ifanc fel ei gilydd.
“Nid yw llwyddiant Twf Swyddi Cymru a’r lleihad yn nifer y bobl ifanc ddi-waith yng Nghymru yn gyd-ddigwyddiad. Mae’n amlwg bod y rhaglen yn rhoi help i bobl ifanc i ddod o hyd i waith ystyrlon, cynaliadwy a chael eu talu.
Mae’r rhaglen hon, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn rhoi cyfleoedd gwaith sy’n para chwe mis i bobl ifanc ddi-waith rhwng 16 a 24 mlwydd oed. Mae Twf Swyddi Cymru yn helpu cyflogwyr i ddatblygu’u busnesau drwy ad-dalu cyflog y person ifanc, gyda golwg ar roi cyflogaeth gynaliadwy i’r person hwnnw ar ôl chwe mis.
Rhoddir gwaith i bobl ifanc am gyfnod o rhwng 25 a 40 awr yr wythnos gydol y chwe mis a rhaid i’r swyddi sy’n cael eu creu fod yn ychwanegol at y swyddi a fyddai’n cael eu llenwi fel arfer. Ni ddylai’r cyfleoedd hyn ddisodli’r swyddi hynny.
Mae bron wyth o bob deg (78%) cyfle gan Twf Swyddi Cymru wedi troi’n swyddi yn y sector cyhoeddus. Mae 83% o’r rhai sydd wedi cymryd rhan wedi symud ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy, gan gynnwys prentisiaethau neu gyfleoedd dysgu pellach ar ôl cwblhau’r cyfle chwe mis.