- Rhagfyr 11, 2015
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Bydd Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Llywodraeth Cymru yn cael ei ymestyn am flwyddyn arall, meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi.
Mae’r cynllun £98 miliwn, fydd yn helpu dros dri chwarter o fusnesau yng Nghymru, yn golygu na fydd oddeutu hanner pob busnes cymwys yn talu ardrethi busnes eto yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Dywedodd y Gweinidog:
“Bydd ymestyn y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach am ddeuddeg mis arall hyd at 31 Mawrth 2017 yn helpu busnesau bychain ledled Cymru, gyda nifer ohonynt yn talu dim ardrethi o gwbl. Fel llywodraeth sydd o blaid busnesau, rydym yn gweithio’n agos â busnesau i greu twf a swyddi ym mhob rhan o Gymru.”
O dan y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach, mae busnesau sydd a gwerth ardrethi o hyd at £6,000 yn derbyn 100% o ryddhad, a bydd y rhai sydd â gwerth ardrethol o rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad fydd yn lleihau’n raddol o 100% i 0.
Cafodd Ardrethi Busnes eu datganoli i Gymru ym mis Ebrill 2015. Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar sicrhau fod y broses drosglwyddo yn mynd yn esmwyth, gan gadw trefn ardrethi gystadleuol yng Nghymru.