- Hydref 15, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Pythefnos cyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau, mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi annog pobl Cymru i fynd ar-lein ac enwebu rhywun eithriadol am Wobr Dewi Sant.
Mae’r Gwobrau, sydd bellach yn eu hail flwyddyn, yn anrhydeddu llwyddiannau eithriadol pobl Cymru. Cafodd y gwobrau eu creu er mwyn cydnabod cyfraniadau gan bobl o bob cefndir a galwedigaeth.
Mae naw categori o wobrau, Dewrder; Dinasyddiaeth; Diwylliant; Menter; Arloesedd a Thechnoleg; Chwaraeon; Person Ifanc; Rhyngwladol a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
“Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gwneud rhywbeth eithriadol yn eich cymuned neu weithle?
“Ydych chi’n gwybod am grŵp o bobl sy’n gwneud mwy na’r disgwyl i wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun arall, neu efallai eich bod yn adnabod rhywun sydd wedi goresgyn problemau ac wedi symud ymlaen i gyflawni pethau anhygoel?
“Os felly, gadewch i ni ddathlu eu llwyddiannau, gadewch i eraill wybod am eu llwyddiant.
“Dim ond pythefnos sydd ar ôl, felly peidiwch â’i gadael tan y funud olaf. Byddai’n drueni pe bai’r bobl sy’n haeddu gwobr yn colli cyfle i gael cydnabyddiaeth haeddiannol. Mae’r broses enwebu yn hawdd, ewch ar-lein ac enwebwch!.”
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 28 Hydref. I enwebu, ewch i wefan Gwobrau Dewi Sant.