- Medi 2, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category:
Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant, wedi amlinellu’r gwelliannau y gall cymunedau Grangetown edrych ymlaen atynt, wrth i Lywodraeth Cymru roi £1 miliwn o gyllid adfywio i’r ardal.
Mae Grangetown yn un o saith ardal yng Nghymru a fydd yn manteisio ar Gronfa Trechu Tlodi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Defnyddir yr arian hwn i wella canol trefi er budd y gymuned leol.
Dywedodd y Gweinidog,
“Mae canol y dref yn chwarae rhan bwysig ym mywyd cymuned, a chyda’r arian hwn gall Llywodraeth Cymru helpu i ddod â gwelliannau i’r ardaloedd sydd fwyaf eu hangen.
“Gall Grangetown edrych ymlaen at welliannau’n cael eu gwneud i adeiladau masnachol yn yr ardal siopa, diolch i gynllun grant sy’n adfywio, glanhau a rhoi cymeriad i’r adeiladau hyn.
“Hefyd, byddwn yn defnyddio’r gronfa trechu tlodi i wella Clare Road a Heol Penarth gan ei gwneud yn fwy addas i gerddwyr a gwella’r pafinau a’r mannau cyhoeddus; bydd gwaith tirlunio’n cael ei wneud, bydd mannau croesi diogel yn cael eu hadeiladu a bydd yr arwyddion yn cael eu gwella. Bydd gwelliannau eraill yn cynnwys creu canolfan gymunedol newydd fydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys helpu pobl leol ddi-waith ddod o hyd i swydd.
“Pwrpas hyn i gyd yw gwneud canol Grangetown yn fwy deniadol ac yn haws ei gyrraedd. Y nod cyffredinol yw cynyddu nifer y bobl sy’n dod i’r ardal a rhoi hwb i fusnesau a chymunedau lleol.”
Heddiw, dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cymunedol, Cwmnïau Cydweithredol a Mentrau Cymdeithasol Cyngor Dinas Caerdydd,
“Mae hwn yn newyddion gwych. Bydd grant Llywodraeth Cymru’n helpu’r Cyngor i fynd ymlaen â’i gynlluniau i adfywio canol Grangetown, sefydlu hwb cymunedol newydd, gwella’r siopau lleol a gwella’r ardal yn gyffredinol.”