- Tachwedd 11, 2015
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Mae’r edrych ymlaen at y Nadolig wedi dechrau’r wythnos hon i nifer o fusnesau ac entrepreneuriaid sydd wedi llwyddo i gael cyfle i werthu eu nwyddau mewn marchnadoedd Nadolig ar hyd a lled Cymru.
Maen nhw’n cael y cyfle hwn drwy Fenter y Farchnad Cymru, rhaglen gan wasanaeth Busnes Cymru’r Llywodraeth sy’n cynnig cyfleoedd i Fusnes Bach a Chanolig a microfusnesau Cymru gael profiad o werthu a hybu eu cynhyrchion a’u gwasanaethau newydd wyneb yn wyneb mewn marchnadoedd stryd.
Llwyddodd y fenter i wneud gwyrthiau i Lauren Catris, dylunydd ategolion ffasiwn o Gaerdydd. Dywedodd Lauren bod y profiad a gafodd hi ym marchnad Caerdydd y llynedd wedi bod yn amhrisiadwy.
Mae Lauren yn arbenigo mewn dylunio a gwneud sgarffiau arbennig iawn a hancesi poced o sidan i ddynion, ac yn ddiweddar, fe lansiodd ei busnes ei hun – Lauren Catris Designs.
Dywedodd Lauren:
“Mae’r fenter hon wedi bod yn help mawr i mi ddatblygu brand Lauren Catris a rhoi fy stamp i ar y farchnad. Yn dilyn fy nghyfnod i gyda Menter y Farchnad Cymru, aeth y busnes o nerth i nerth – roedd yr adborth cadarnhaol a gefais yn rhagorol. Mewn dim o amser, roedd brand Lauren Catris wedi’i lansio ac yn cael ei adnabod gan bawb.”
Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi.
“Mae Menter y Farchnad Cymru yn llwyddiannus iawn ac mae’n rhoi profiad gwerthu gwerthfawr iawn i fusnesau ifanc a chyfle iddyn nhw hybu a dangos eu cynhyrchion i sylfaen cwsmeriaid llawer ehangach.
“Mae’r fenter yn rhan o becyn cymorth cynhwysfawr gan Fusnes Cymru i helpu entrepreneuriaid a mentrau ifanc sefydlu ac ehangu eu busnesau ledled Cymru.”
Bydd yr entrepreneuriaid yn cael stondin mewn marchnad am hyd at 5 diwrnod yn y lleoliadau canlynol:
•Caerdydd – 12 Tachwedd – 5 Rhagfyr
•Portmeirion – 05 – 06 Rhagfyr
•Wrecsam – 10 Rhagfyr.
Cyn mynd ar y stondin, cynhelir diwrnod hyfforddi cynhwysfawr gyda rheolwyr y marchnadoedd. Yn dilyn hynny, bydd gweithdy arbennig ar gyfryngau cymdeithasol yn cael ei gynnal lle bydd yr entrepreneuriaid yn cael dysgu sut i hybu eu busnesau a’u gweithgareddau cyn, yn ystod ac ar ôl eu cyfnod ar y stondin. Bydd cynghorwyr busnes a Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru ar gael i’w helpu a’u cefnogi trwy gydol y broses hefyd.
Hefyd, mae Busnes Cymru’n hybu prosiectau ar gyfryngau cymdeithasol fel rhan o Ymgyrch Genedlaethol yr Hydref.
Wefan: www.business.wales.gov.uk/cy/cefnogwch-fusnesau-cymru-siopau-lleol (dolen allanol).
Twitter: #MarchnadNadolig / #SiopaLleol.
Ers lansio Menter y Farchnad Cymru yn ystod Wythnos Entrepreneuriaid y Byd nôl yn 2011, mae wedi mynd o nerth i nerth ac mae dros 140 o fusnesau wedi cael help i fynd i lawer o farchnadoedd ar hyd a lled Cymru.