- Mehefin 18, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Cafodd dros 3,000 o deuluoedd yng Nghymru a chanddynt amrywiaeth o anghenion eu helpu gan gynllun trechu tlodi mewn cyfnod o naw mis llynedd.
Cytunodd bron 1,800 o’r teuluoedd hynny ar gynllun gweithredu Teuluoedd yn Gyntaf i fynd i’r afael â’u problemau cyn iddynt waethygu. Cafodd y gweddill eu cyfeirio at ystod o brosiectau, diolch i’r cymorth a gawsant trwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.
Mae’r canlyniadau’n cael eu disgrifio mewn adroddiad sy’n gwerthuso ail flwyddyn Teuluoedd yn Gyntaf.
Cafodd Teuluoedd yn Gyntaf ei greu yn 2010 i gyfrannu at drechu tlodi plant yng Nghymru. Mae’n gweithio gydag awdurdodau lleol i roi cymorth a chynnal prosiectau er lles teuluoedd sy’n wynebu amrywiaeth o anawsterau. Mae awdurdodau lleol yn teilwra’r cymorth yn ôl anghenion lleol a gofynion penodol y teulu.
Yn ystod naw mis yr adroddiad, cytunodd 1,777 o deuluoedd ar gynllun gweithredu Tîm o Amgylch y Teulu penodol iddyn nhw. Mae pob teulu’n wynebu problemau neilltuol ac mae pob cynllun gweithredu’n dod â nifer o asiantaethau ynghyd.
Nododd ychydig dros hanner (53%) y rheini y mae gennym ddata amdanynt eu bod wedi cael canlyniadau llwyddiannus. Yn y tymor byr, y canlyniadau hynny yw ymddygiad gwell, llesiant gwell a pherthynas well rhwng aelodau’r teulu.
Roedd y canlyniadau’n fwy positif i’r teuluoedd yr effeithir arnynt gan anabledd, gyda 71% yn nodi canlyniad llwyddiannus. Mae hynny’n rhannol oherwydd bod y teuluoedd hynny’n fwy tebygol o fod yn barod i weithio gyda staff Teuluoedd yn Gyntaf a chwblhau cynllun gweithredu.
Mae mwy nag wyth o bob deg aelod o staff sy’n gweithio gyda theuluoedd yn dweud eu bod wedi gweld gwelliant o ran cyfeirio teuluoedd am gymorth, asesiad a gwasanaethau ers lansio Teuluoedd yn Gyntaf.