- Mawrth 4, 2015
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Dim Sylwadau
Llywodraeth Cymru yw’r diweddaraf mewn cyfres o sefydliadau mawr Cymru i symud i barthau .cymru a .wales.
Mae cyfeiriadau’r brif wefan, sef www.cymru.gov.uk a www.wales.gov.uk wedi newid i www.llyw.cymru a www.gov.wales
Bydd gwefannau eraill Llywodraeth Cymru, fel Dysgu Cymru, CADW a Hwb, yn cael eu newid maes o law.
Bydd y cyfeiriadau hen a newydd yn gweithio ochr yn ochr am gyfnod, ond bydd yn rhaid i ymwelwyr â phrif safle Llywodraeth Cymru ddiweddaru eu dolenni a’u nodau dalen.
Mae’r sefydliadau sydd eisoes wedi symud i’r parthau newydd yn cynnwys Chwaraeon Cymru, Media Wales, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Stadiwm y Mileniwm.
Nod y parthau newydd yw rhoi presenoldeb cryf ar-lein i Gymru, yn ogystal â chryfhau hunaniaeth fyd-eang Cymru.