- Gorffennaf 22, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category:
Mae lansio Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn garreg filltir allweddol yn yr ymgais i hyrwyddo twf y sector, cynyddu ei gyfraniad at yr economi o dros £1 biliwn yn flynyddol, creu swyddi a denu buddsoddiad mewnol.
Mae’r Hwb – yn nghanol Bae Caerdydd – yn fenter ddiweddaraf Llywodraeth Cymru i gefnogi’r sector allweddol hon sydd eisoes yn elwa o’r £100 miliwn o Gronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru a strategaeth £50 miliwn Ser Cymru.
Meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi:
“Bydd yr Hwb yn adnodd canolog ar gyfer y sector cyfan ledled Cymru gan gynnig lefel o gymorth, cyngor a chyllid wedi’i gydlynnu na welwyd ei debyg o’r blaen. Bydd yn ganolfan ar gyfer cydweithio, arloesi a buddsoddi – gan fusnesau, y byd academaidd, a chlinigwyr – a chaiff gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a’r sector ei hun.
“Mae’r wobr o lwyddo ym maes gwyddorau bywyd yn enfawr – manteision deuol o ran iechyd a chyfoeth. Mae Panel y Sector yn hyderus y bydd ein dull o weithio yn cynnig twf sylweddol ym myd busnes a manteision economaidd amlwg ar gyfer Cymru gyfan, ac rwyf innau’n cytuno.
“Cafwyd cynnydd cyflym ar weithredu’r argymhellion yn ein strategaethau gwyddoniaeth a phanel y sector. Rydym yn cyflawni i Gymru, mae gennym uchelgais ar y cyd, gweledigaeth gyffredin a strategaeth gref i adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn sector fywiog a deinamig yng Nghymru.”
Mae gan yr Hwb bedair amcan glir:
•Cysylltu a chanolbwyntio ar y sector Gwyddorau Bywyd yng Nghymru
•Denu cyfleoedd a buddsoddiad newydd ym maes Gwyddorau Bywyd
•Meithrin a sbarduno twf busnesau Gwyddorau Bywyd yng Nghymru
•Creu twf economaidd, cyfoeth a swyddi newydd
Bydd yn ganolbwynt ar gyfer cydweithio a rhyngweithio, denu buddsoddi mewnol, cefnogi busnesau newydd, ehangu busnesau presennol a hyrwyddo’r sector yn fyd-eang.
Mae cwmnïau byd-eang megis Johnson & Johnson Innovation a GE Healthcare eisoes wedi ymuno fel aelodau’r Ganolfan ochr yn ocrh â GIG Cymru, Arthurian Life Sciences sy’n rheoli Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, Cyllid Cymru a BBI Healthcare. Mae’r gwasanaethau proffesiynol yn cael eu cynrychioli gan Geldards (cyfreithwyr), Withers and Rogers (Twrneiod Eiddo Deallusol) a Broomfield Alexander (cynghorwyr proffesiynol).
Bydd yn cael ei reoli gan Life Sciences Wales Hub Ltd o dan arweiniad Dr Ian Barwick, y Prif Swyddog Gweithredu, a bwrdd cryf yn ei gynnal, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Chris McGuigan, sy’n dod ag arbenigedd a chyfeiriad a chyngor strategol.
Meddai yr athro Chris McGuigan:
“Mae gan Gymru enw da iawn ym maes Gwyddorau Bywyd, gyda chwmnïau byd-enwog, rhagoriaeth ryngwladol o ran ymchwil yn ein Prifysgolion a channoedd o fusnesau bach a chanolig hynod arloesol. Hwb Gwyddorau Bywyd yw’r catalydd ar gyfer twf, gan gefnogi arloesi ym maes Gwyddorau Bywyd a gwaith ymchwil blaenllaw yng Nghymru. Os ydych yn gweithio ym maes Gwyddorau Bywyd yng Nghymru, mae angen i chi fod yn rhan o’r Hwb.”
Bydd yr Hwb yn 3 Sgwâr y Cynulliad yn rhoi mynediad i dîm Gwyddorau Bywyd Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, gyda gwasanaethau proffesiynol, asiantwyr patentau ac arbenigwyr trosglwyddo technoleg.
Bydd y cyfleusterau yn yr Hwb yn cynnwys man cyfarfod o safon uchel gyda mynediad i’r we, lle i gynnal digwyddiadau a hyfforddiant, fideo gynadledda ac ystafell gyfryngau.