- Rhagfyr 10, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Mae Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Jane Hutt wedi croesawu’r ffaith fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo’r ‘Blaenoriaethau i Gymru’ gan Lywodraeth Cymru yng Nghyllideb Derfynol 2015-16.
Bydd Cyllideb Derfynol 2015-16 yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus allweddol ac yn hybu’r economi drwy fuddsoddi mewn seilwaith er gwaethaf toriadau flwyddyn ar ôl blwyddyn i Gyllideb Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU. Mae’n cynnwys:
•£425m o gyllid ychwanegol dros ddwy flynedd i GIG Cymru ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd cynaliadwy o ansawdd uchel. Ynghyd â’r £70m o gyllid refeniw a ddyrannwyd i iechyd yn sgil Datganiad yr Hydref, mae hyn yn golygu cynnydd o fwy na hanner biliwn o bunnoedd dros ddwy flynedd i GIG Cymru;
•Diogelu cyllid ysgolion un y cant uwchlaw’r newidiadau i gyllid Cymru yn gyffredinol, sy’n golygu y bydd £106m yn ychwanegol wedi’i ddarparu i ysgolion dros y cyfnod Adolygiad Gwariant hwn;
•Cefnogi plant, teuluoedd a chymunedau difreintiedig, gan gynnwys diogelu cyllid ar gyfer Dechrau’n Deg, gan ddyblu nifer y plant sy’n elwa i 36,000;
•Buddsoddiad parhaus mewn amrywiaeth o raglenni cyflogaeth, gan gynnwys cyllido drwy Twf Swyddi Cymru. Mae Twf Swyddi Cymru yn rhagori ar ei dargedau. Erbyn hyn mae’r rhaglen wedi creu bron 16,500 o gyfleoedd gwaith ac mae bron 13,500 o bobl ifanc yn llenwi’r swyddi hyn.
•Buddsoddiad cyfalaf sylweddol ar gyfer seilwaith, gyda dros £100m i gefnogi’r blaenoriaethau yng Nghynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, gan gynnwys £11m i’w fuddsoddi ar unwaith yn 2014-15.
•Canolbwyntio ar fesurau ataliol ac ymyrryd yn gynnar – cyfeirio adnoddau at fesurau sy’n helpu i osgoi problemau rhag digwydd yn y lle cyntaf, ymyriadau a fydd yn ymdrin â’r pwysau ar y gwasanaethau cyhoeddus ac yn sicrhau ansawdd bywyd gwell i’r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.
Wth wynebu cyllidebau llai, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi defnyddio dulliau arloesol wrth gefnogi buddsoddiad hanfodol mewn seilwaith ar draws Cymru, gan gynnwys y gronfa £500m a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer cam nesaf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a £150m ar gyfer rheoli perygl llifogydd a’r perygl i’r arfordir.
Wrth groesawu’r bleidlais, dywedodd Jane Hutt:
“Mae ein Cyllideb Derfynol wedi’i ffurfio gan ein Blaenoriaethau i Gymru ac mae’n adlewyrchu’r penderfyniadau fwyfwy anodd rydym wedi gorfod eu gwneud i leihau cyllidebau. Er gwaethaf lleihad o tua 9% yn ein cyllideb mewn termau real dros dymor y Cynulliad hwn, rydyn ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i leddfu’r effaith ar wasanaethau cyhoeddus a chymunedau. Rydyn ni hefyd wedi ceisio darparu ‘rhwyd diogelwch’ ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed a’r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf ac i hybu buddsoddiad yn ein seilwaith sy’n hanfodol ar gyfer adferiad economaidd cytbwys.
“Rydyn ni’n hyderus y bydd ein cynlluniau gwariant yn ein cefnogi ni i gyflawni ein blaenoriaethau o fewn y cyllid sydd ar gael. Cyhoeddwyd cyllideb gyfrifol a chynaliadwy, sydd hefyd yn seiliedig ar ein hegwyddorion o gyfiawnder cymdeithasol a thegwch. Mae’n cefnogi buddsoddiad allweddol mewn iechyd a phobl ifanc, gan ddiogelu gwasanaethau y mae pobl o bob cwr o Gymru’n dibynnu arnyn nhw.”