- Mehefin 18, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi neilltuo £1.6 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf i gryfhau’r cysylltiadau rhwng y Gymraeg a’r economi a chreu mwy o gyfle i bobl ddefnyddio’r iaith bob dydd.
Wrth siarad yn y Senedd, amlinellodd y Prif Weinidog y camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau’r iaith dros y tair blynedd hollbwysig nesaf. Mae’r datganiad polisi drafft Bwrw Mlaen yn datblygu ar strategaeth y Gymraeg fel ag y mae ac yn ymateb i brif ganfyddiadau’r Gynhadledd Fawr.
Bydd £400,000 yn cael ei fuddsoddi i elwa ar bob cyfle i greu cysylltiadau rhwng y Gymraeg a’r economi.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu prosiect peilot i wella’r ffordd mae busnesau yn darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn Nyffryn Teifi, gan gynnwys sefydlu Cymorthfeydd Busnes a Chronfa i Gefnogi Busnesau Bach a Chanolig. Bydd y gweithgarwch hwn yn sylfaen ar gyfer gweithredu ledled Cymru yn fwy cyffredinol a bydd prosiectau ymchwil a marchnata hefyd yn derbyn cyllid.
Dros y ddwy flynedd nesaf hefyd, bydd £1.2 miliwn yn cael ei fuddsoddi i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned – £400,000 eleni a fydd yn cynyddu i £800,000 o 2015-16 ymlaen.
Mae hyn yn cynnwys £750,000 i ddatblygu gwaith y Mentrau Iaith, a bydd cronfa newydd hefyd yn cael ei sefydlu ar gyfer prosiectau newydd i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd neu mewn lleoliadau sydd o bwys strategol.