- Ionawr 27, 2016
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Mae aelodau’r cyhoedd yn cael rhoi eu barn am yr hyn yr hoffent ei weld yn y fasnachfraint reilffordd nesaf ar gyfer Cymru.
Lansiodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart ymgynghoriad cyhoeddus i lywio’r fanyleb ar gyfer masnachfraint reilffordd nesaf Cymru a’r Gororau, fydd yn cynnwys gwasanaethau rheilffordd Metro yn ne-ddwyrain Cymru. Mae disgwyl y bydd y cyfrifoldeb dros ddyfarnu Masnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau yn trosgwlyddo i Lywodraeth Cymru ar ddechrau 2017, sef pan fydd yn amser ystyried y fasnachfraint nesaf sydd i ddechrau yn 2018.
Mae’r ymgynghoriad yn holi barn ar y blaenoriaethau ar gyfer gwelliannau i’r fasnachraint mewn nifer o feysydd, gan gynnwys:
- Gwasanaethau a chapasiti
- Perfformiad
- Prisiau a thocynnau
- Cerbydau
Meddai Mrs Hart:
“Am y tro cyntaf, bydd y penderfyniadau am ein gwasanaethau rheilffordd yn cael eu gwneud yng Nghymru i sicrhau bod gennym y gwasanaethau effeithiol, fforddiadwy o safon uchel yr ydym eu hangen. Rwy’n disgwyl manteision gwirioneddol i deithwyr, gan gynnwys amseroedd teithio cyflymach, gwasanaethau o safon uwch, mwy dibynadwy a mwy o le ar drenau.
“Ymgynghoriad heddiw yw’r cam cyntaf yn yr ymgysylltu â’r cyhoedd a’r diwydiant i helpu i ddatblygu manyleb ddrafft ar gyfer dyfarnu’r fasnachfraint nesaf. Rwy’n gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosib yn cymeryd y cyfle i ddweud eu dweud i lunio gwasanaethau rheilffordd ar gyfer y dyfodol.”
Bydd adroddiad sy’n crynhoi y safbwyntiau a fynegwyd yn yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi wedi etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai.