- Rhagfyr 21, 2015
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category:
Mae gwaith wedi dechrau ar brosiect £100 miliwn gan Cartrefi Tirion i weddnewid safle ddiwydiannol ddiffaith, enfawr, yn gymuned gyda 800 o gartrefi ysblennydd yn agos at ganol dinas Caerdydd.
Wrth ymweld â’r safle heddiw disgrifiodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi y prosiect fel carreg filltir enfawr yn y datblygiad hir ddisgwyliedig.
Meddai’r Gweinidog:
“Mae’n wych gweld fod gwaith ar y gweill ar yr hyn a fydd yn brosiect allweddol i adnewyddu a gweddnewid hen safle melin bapur yn gymuned newydd fywiog. Nid yn unig y bydd yn darparu cannoedd o gartrefi newydd y mae eu gwir angen, gan gynnwys cartrefi fforddiadwy, ond daw hefyd â buddsoddi i’r ardal hon o Gaerdydd gan greu llawer iawn o swyddi yn y diwydiant adeiladu.”
Defnyddir dulliau arloesol o ariannu wrth greu’r gymdogaeth newydd lle bydd cartrefi ar werth ac ar rent ar gael ac y mae teuluoedd mewn gwaith wir eu hangen. Disgwylir y bydd y gwaith ar y safle 53 erw, lle’r oedd melin bapur enwog Arjo Wiggins, yn creu hyd at 1,000 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu.
Bydd y datblygiad newydd, sy’n cael ei alw The Mill, yn cynnwys tai fforddiadwy a thai ar y farchnad agored, yn ogystal ag adnoddau cymunedol megis canolfan bentref, mannau agored a phensaernïaeth ddeniadol, llwybrau troed a llwybrau beicio glan yr afon.
Ar ôl llofnodi contract £10 miliwn yr wythnos hon gyda chwmni datblygu Tirion, mae Alun Griffiths, cwmni peirianneg sifil De Cymru, erbyn hyn wedi symud i’r safle anferth i osod ffyrdd a gwasanaethau yn barod ar gyfer adeiladu’r cartrefi a’r adnoddau cymunedol y flwyddyn nesaf.
Amcangyfrifir y bydd y gwaith peirianneg sifil hwn yn cymryd tua 16 mis a bydd y datblygwyr a’r contractwyr yn cydlynu’n agos gyda thrigolion yn y cymunedau gerllaw gydol y cyfnod hwn.
Daeth y datblygiad £100 miliwn yn bosibl trwy bartneriaeth arloesol rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Adeiladu’r Principality a Grŵp Tirion, menter nid er elw sy’n anelu at ddefnyddio’r model cydweithredol hwn i godi tai o ansawdd da ledled y wlad.
Roedd Tirion yn gallu gwireddu potensial safle ddiffaith yr hen felin bapur trwy brynu a chlirio’r tir llwyd gyda chefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru a’r Principality, sicrhau caniatâd cynllunio ac, yna, ddatblygu’r safle mewn partneriaeth ag adeiladydd tai profiadol.
Bydd y prosiect yn gyfraniad enfawr at adfywio’r ardal i’r gorllewin o ganol dinas Caerdydd, yn ogystal â chynnig dewis eang o fathau o eiddo ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y ddinas.
Ychwanegodd John Lovell, cadeirydd Datblygiadau Tirion:
“Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol sydd wedi’i seilio ar fodel ariannol arloesol. Mae wedi cymryd llawer iawn o ymdrech i gyrraedd y cyfnod hwn a chan fod y gwaith ar y gweill ar rannau cyntaf y datblygiad, rydym yn credu y bydd yn creu bwrlwm a ddaw â bywyd newydd i lawer o safleoedd diwydiannol eraill sydd wedi’u hesgeuluso ac yn creu cymunedau bywiog ble bydd pobl eisiau byw.”
Meddai Peter Hughes, Rheolwr Gyfarwyddwr Principality Commercial, braich fasnachol Cymdeithas Adeiladu’r Principality a fenthycodd yr arian i alluogi Tirion ddatblygu seilwaith ar y tir:
“Mae hwn yn un o nifer o ddatblygiadau lle’r oedd gan Principality ran wrth gefnogi economiau’r gwahanol ardaloedd, ysgogi’r farchnad dai yng Nghymru a helpu bobl i gael cartrefi. Mae dechrau’r gwaith ar y safle’n galondid mawr i bawb y bydd eu gwaith caled yn dwyn ffrwyth.”
Bydd y gymdogaeth newydd yn cael ei rheoli gan Gymdeithas Dai Cadwyn. Meddai ei Phrif Weithredwr, Chris O’Meara:
“Rydym yn falch iawn o fod â rhan yn y prosiect arloesol hwn ac i weithio mewn partneriaeth â Grŵp Tirion. Mae’r prosiect hwn yn gyfle unigryw i greu cymuned ffyniannus newydd sbon yng nghanol Caerdydd a bydd Cadwyn yn chwarae rhan bwysig mewn gwireddu hyn.”