- Mehefin 25, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Ddydd Llun 23 Mehefin, bydd y gyntaf mewn cyfres o hysbysebion teledu, radio a digidol yn cael ei darlledu i roi gwybodaeth i’r cyhoedd am y ddeddfwriaeth newydd ar roi organau yng Nghymru.
Bydd yr hysbysebion teledu’n cael eu darlledu yn ystod penodau o Pobol y Cwm ar S4C a Coronation Street ar ITV Cymru. Byddant yn cael eu darlledu ar y radio, y teledu a’r cyfryngau cymdeithasol hyd at yr wythnos genedlaethol trawsblaniadau (7-13 Gorffennaf).
Ysbrydoliaeth yr hysbysebion, a fydd yn cychwyn cam nesaf ymgyrch Nawr yw’r Amser i Siarad gan Lywodraeth Cymru, yw’r ffaith bod 36 o bobl wedi marw yng Nghymru y llynedd wrth aros am roddwr organau addas.
Fel rhan o’r hysbyseb gyntaf, bydd cloc digidol yn cyfrif i lawr a bydd pedair enghraifft o unigolyn – mam, bachgen ifanc, menyw yn ei 50au a dyn ifanc. Mae’r cloc yn dangos sut mae unigolion yn aml yn gorfod aros am gyfnod poenus o hir yn y gobaith o gael trawsblaniad, gan ddangos hefyd bod amser yn diflannu i’r rheini sydd angen organ i oroesi.
Mae ail hysbyseb, a fydd yn cael ei darlledu’n agosach at yr wythnos genedlaethol trawsblaniadau, yn galw’n syml ar y gwylwyr i ddechrau siarad gyda’u hanwyliaid ynghylch a ydyn nhw am roi organau ai peidio, a’r opsiynau sydd ar gael iddyn nhw o 1 Rhagfyr 2015 ymlaen pan fydd y gyfraith yn newid yng Nghymru.
I gefnogi lansiad cam diweddaraf yr ymgyrch hysbysebu, mae sianelau cyfryngau cymdeithasol ac ap Facebook wedi cael eu creu ynghylch rhoi organau yng Nghymru.
Bydd y cyfrif Twitter dwyieithog, @OrgDonationCYM, a thudalen Rhoi Organau Cymru ar Facebook yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y ddeddfwriaeth system feddal o optio allan. Bydd y rhain yn cael eu diweddaru’n ddyddiol a byddant yn fforymau i holi cwestiynau am y newid sydd ar y gweill yng Nghymru, gan roi gwybodaeth gyffredinol hefyd am roi organau.
Mae’r ap Facebook, sydd am ddim i’w lawrlwytho, wedi cael ei gynllunio i feddwl am ddewis, ac mae’n rhoi cyfuniad o enghreifftiau difyr a difrifol “a fyddai’n well gen ti” o fywyd bob dydd.
——
Mae’r cyfnod cyhoeddusrwydd newydd hwn yn rhan o ymgyrch gyfathrebu ehangach i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am y ddeddfwriaeth newydd ar roi organau, a fydd yn dod i rym yng Nghymru ar 1 Rhagfyr, 2015.
Y bwriad o newid i ganiatâd tybiedig yng Nghymru yw cynyddu nifer y rhoddwyr organau posibl a chynyddu nifer yr organau sydd ar gael i’w trawsblannu.
O dan y system newydd, bydd person yn dod yn rhoddwr naill ai drwy gofrestru penderfyniad i optio i mewn – fel maen nhw’n ei wneud ar hyn o bryd – neu trwy wneud dim byd, felly byddant yn rhoi caniatâd tybiedig.
Bydd gwneud dim byd yn gyfystyr â pheidio â gwrthwynebu o gwbl i fod yn rhoddwr, a bydd unigolion yn cael eu trin yn yr un ffordd â phe byddent wedi dewis bod yn rhoddwyr. Os nad yw unigolion am fod yn rhoddwr, gall gofrestru penderfyniad i optio allan.