- Medi 16, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Gallai pobl yng Nghymru wynebu dirwy o £50 yn y fan a’r lle os byddant yn cael eu dal yn anwybyddu gwaharddiad ar smygu mewn ceir sy’n cario plant, yn ôl y cynlluniau a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Cymru.
Mae ymgynghoriad chwe wythnos ar y cynlluniau – a gafodd eu cyhoeddi yn y lle cyntaf gan Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog Iechyd (Mark) ym mis Gorffennaf – wedi cael ei lansio wythnos diwethaf.
Mae’r cynlluniau’n anelu at ddiogelu iechyd plant a phobl ifanc rhag y niwed sy’n gysylltiedig â bod yn agored i fwg ail law wrth deithio mewn cerbydau preifat.
Mae smygu’n achosi niwed difrifol i iechyd smygwyr ac i iechyd y rhai hynny nad ydynt yn smygu ac sy’n anadlu mwg ail law. Smygu yw’r achos mwyaf o afiechyd a marwolaeth cyn pryd y gellir ei atal yng Nghymru, gan achosi tua 5,450 o farwolaethau yng Nghymru yn 2010.
O dan y newidiadau a gynigir i’r ddeddfwriaeth yng Nghymru, byddai’r canlynol yn drosedd:
•Smygu mewn cerbyd preifat pan fydd plant iau na 18 oed yn bresennol;
•I yrrwr cerbyd beidio ag atal smygu mewn cerbyd preifat pan fydd rywun iau na 18 oed yn bresennol.
Bydd y gyfraith newydd yn cael ei gorfodi’n bennaf gan swyddogion yr heddlu ar y cyd â’u dyletswyddau ehangach sy’n ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd.
Disgwylir y bydd y gyfraith newydd yn dod i rym yn 2015.
Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn cynnal ymgynghoriad i bennu a ddylai Llywodraeth Cymru ddeddfu yn y dyfodol i wahardd y defnydd o e-sigaréts mewn cerbydau preifat sy’n cario plant iau na 18 oed.
Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru:
“Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i anadlu awyr lân a mwynhau amgylcheddau di-fwg. Bydd diogelu plant rhag anadlu mwg ail law yn helpu i sicrhau’r dechrau gorau i’w bywydau.
“Mae anadlu mwg ail law yn fygythiad difrifol i iechyd plant; mae’n gallu achosi iddyn nhw fod yn agored i amrywiaeth o gyflyrau iechyd fel heintiau’r pibellau anadlu isaf, asthma, clefyd y glust ganol, a heintiau difrifol eraill.
“Mae rhai pobl yn tanio sigarét mewn ceir heb feddwl, ac maen nhw o’r farn y bydd agor ffenestr yn helpu i gael gwared ar y mwg; ond mae gwneud hynny’n ei chwythu’n ôl i mewn i’r car. Dyw plant ddim yn gallu dianc rhag y cemegion gwenwynig sydd mewn mwg ail law pan fyddan nhw’n teithio mewn cerbydau.”
Dywedodd Mark, yn rhinwedd ei swydd fel y Gweinidog Iechyd:
“Heddiw, rydyn ni’n pennu ein cynlluniau penodol i wahardd pobl rhag smygu mewn cerbydau preifat pan fydd plant iau na 18 oed yn bresennol. Ein nod yw diogelu iechyd plant a phobl ifanc rhag y niwed sy’n gysylltiedig â bod yn agored i fwg ail law wrth deithio mewn cerbydau preifat.
“Rydyn ni o’r farn mai’r ffordd fwyaf effeithiol o gael gwared ar y niwed yw deddfu i wahardd smygu mewn cerbydau preifat pan fydd plant iau na 18 oed yn bresennol.
“Byddai newid y gyfraith yn diogelu plant rhag y niwed sy’n gysylltiedig ag anadlu mwg ail law mewn cerbydau preifat, yn annog smygwyr i gymryd camau i ddiogelu plant rhag mwg ail law, ac yn arwain at leihau’r nifer o gyflyrau iechyd ymhlith plant sy’n cael eu hachosi gan fwg ail law.”