- Hydref 21, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews AC yn rhoi materion y gweithlu wrth wraidd yr agenda diwygio gwasanaethau cyhoeddus drwy ddechrau ymgynghoriad ar gylch gwaith comisiwn staff.
Gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad clir yn ei Rhaglen Lywodraethu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon, effeithiol a hygyrch.
Bydd Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus yn gallu cynghori Gweinidogion Cymru a sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus ar faterion y gweithlu a nodi a chynnig atebion ymarferol i broblemau sy’n codi yn sgil diwygio.
Dywedodd Leighton Andrews:
“Mae angen helpu’n gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau newid. Rydyn ni eisiau gwasanaethau cyhoeddus sy’n fodern, yn canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr ac yn cael eu cefnogi gan staff sydd â buddiant sylweddol yn eu llwyddiant. Dwi eisiau bod y gweithlu yn cyfrannu at y drafodaeth am y ffordd orau o wella pethau.
“Gall Staff Comisiwn effeithiol chwarae rôl allweddol o ran ystyried materion staffio drwy gydol y cyfnod hwn o newid, a chyfrannu at y weledigaeth rydyn ni wedi’i hamlinellu ar gyfer gweithlu’r sector cyhoeddus.
“Rwy’n bwriadu sefydlu Comisiwn Staff anstatudol erbyn mis Ebrill 2015 i gefnogi unrhyw awdurdodau lleol sy’n uno’n wirfoddol.”
Caiff cwmpas a chylch gwaith y Comisiwn ei fanylu a’i ddatblygu ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol ac mewn ymateb i’r safbwyntiau a fynegir drwy’r ymgynghoriad.
Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 13 Ionawr 2015.