- Gorffennaf 14, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths AC, wedi cyhoeddi £2.275m i sicrhau dyfodol y Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan.
Yn dilyn cyflwyno Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yr wythnos ddiwethaf, cytunodd y Gweinidog i barhau i gyllido’r Llinell Gymorth ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2015 hyd 31 Mawrth 2020.
Pan lansiwyd y llinell gymorth yn 2004, roedd ar agor am wyth awr y diwrnod. Yn sgil adolygiad yn 2006, ymestynnwyd y gwasanaethau i fod ar agor 24 awr o fis Ionawr 2007 ymlaen. Yn nes ymlaen eto, ehangodd y gwasanaeth i gynnwys cymorth i ddioddefwyr troseddau rhywiol.
Mae’r llinell gymorth bellach ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn ac yn cynnig gwybodaeth a chymorth o safon uchel i bobl sy’n dioddef o gam-drin domestig a/neu drais rhywiol ac unrhyw bobl sy’n cysylltu â’r gwasanaeth ar eu rhan.
Dywedodd Lesley Griffiths AC:
“Gall trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol adael dioddefwyr yn teimlo fel eu bod ar eu pen eu hunain yn gyfan gwbl.
“Mae Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru yno i bawb. Mae yno i bobl sy’n dioddef camdriniaeth eu hunain neu i bobl sydd am ffonio ar ran rhywun arall. Mae’r gwasanaeth ar gael ar unrhyw adeg, ddydd a nos, gan gynnig gwybodaeth a chymorth i bwy bynnag fydd yn ffonio.
“Mae Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn nodi, mewn cyfraith, gyfrifoldebau gwasanaethau’r sector cyhoeddus o ran cefnogi dioddefwyr.
“Mae’r Llinell Gymorth hon yn enghraifft ymarferol o’r hyn sydd ei angen ac rwy’n falch iawn o allu sicrhau ei dyfodol am y bum mlynedd nesaf, a hynny ar adeg pan fo’r materion hyn yn uchel ar yr agenda yn sgil y Bil diweddar.”