- Mawrth 4, 2015
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Mae’r Gweinidog Cyllid , Jane Hutt, wedi cyhoeddi buddsoddiad o £10 miliwn gan yr UE ar gyfer menter gwerth £17 miliwn i helpu pobl sydd wedi colli eu swyddi i fynd nôl i weithio.
Bydd y cyhoeddiad am y rhaglen ReAct 3 newydd, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei wneud yn ystod anerchiad y Gweinidog i gynulleidfa o uwch-gynrychiolwyr yr UE, aelodau o Senedd Ewrop a busnesau o bob cwr o Ewrop mewn derbyniad ym Mrwsel i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Bydd y buddsoddiad gan yr UE yn helpu hyd at 8,000 o bobl sy’n wynebu diswyddiadau yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd dros y tair blynedd nesaf – gan ychwanegu at y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan y Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru. Mae cyllid yr UE yn rhan o becyn ehangach o gymorth, gan gynnwys cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r sector preifat, a fydd yn galluogi rhaglen ReAct i barhau i fod ar gael ledled Cymru.
Bydd y cymorth yn cael ei dargedu at bobl sy’n cael eu hatal rhag cael swydd arall oherwydd nad oes ganddynt y sgiliau sy’n ofynnol gan gyflogwyr sy’n recriwtio, a bydd yn ariannu costau hyfforddi ar gyfer ennill y sgiliau hynny yn ogystal â helpu tuag at gostau teithio, gofal plant a llety.
Mae’r rhaglen ReAct 3 newydd hon yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglen ReAct flaenorol. Rhwng 2007 a 2014, cafodd dros 27,000 o’r rheini oedd yn chwilio am waith a bron 2,000 o gyflogwyr gymorth drwy’r rhaglen, a arweiniodd at 20,000 o bobl yn cael cymwysterau newydd a dros 12,000 yn mynd yn ôl i weithio.
Dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt:
“Mae cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd yn parhau i chwarae rhan hollbwysig wrth atgyfnerthu economi Cymru a gwella rhagolygon y farchnad lafur.
“Dros y chwe blynedd nesaf bydd Cymru yn elwa ar bron £2 biliwn o gyllid Ewropeaidd a fydd yn cael ei dargedu’n benodol at greu swyddi, cefnogi busnesau a darparu cyfleoedd i bobl ddatblygu sgiliau a gyrfaoedd newydd.
“Rwy’n falch iawn y bydd cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn helpu i ddatblygu cam nesaf y rhaglen ReAct hon, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus, gan sicrhau y bydd pobl yn cael y cymorth mwyaf posibl i ddatblygu eu sgiliau a dychwelyd i gyflogaeth cyn gynted â phosibl.”
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James:
“Mae rhaglen ReAct eisoes wedi helpu miloedd o bobl sy’n chwilio am waith a chyflogwyr yng Nghymru, ac rwy’n falch iawn ein bod yn gallu eu cefnogi rhagor.
“Mae ReAct yn mynd i’r afael â diweithdra mewn dwy ffordd. Mae’n helpu cyflogwyr i roi swyddi i bobl sydd wedi colli eu swyddi blaenorol ac mae’n darparu cyllid i helpu’r rheini sy’n chwilio am waith ar ôl colli eu swydd.
“Mae’r dull ymarferol hwn yn enghraifft arall o’n hymrwymiad i wella a helpu economi Cymru.”
Yn ystod ei hymweliad â Brwsel, bydd y Gweinidog Cyllid yn cwrdd ag uwch-gynrychiolwyr o’r Comisiwn Ewropeaidd ac yn mynd i ginio busnes a gynhelir gan Brifysgol Abertawe i ddathlu datblygiad campws arloesi Bae Abertawe.
Mae campws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd y Brifysgol yn cael ei ddatblygu gyda chymorth sylweddol gan yr UE, gan gynnwys pecyn cyllid gwerth £60 miliwn drwy’r Banc Buddsoddi Ewropeaidd a £40 miliwn mewn Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, ar ben buddsoddiad uniongyrchol o £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Pan fydd wedi’i ddatblygu’n llawn, bydd y campws newydd yn cael effaith economaidd o tua £3 biliwn dros gyfnod o 10 mlynedd.