- Mehefin 12, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Dywedodd y Prif Weinidog mai creu swyddi ar gyfer pobl ifanc yw llwyddiant mwyaf y flwyddyn i Lywodraeth Cymru wrth iddo gyhoeddi adroddiad y Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2013-14.
Mae adroddiad diweddaraf y Rhaglen Lywodraethu, a gyhoeddir yn flynyddol, yn olrhain cynnydd yn erbyn 335 o ddangosyddion y Llywodraeth, gan gynnwys twf a swyddi cynaliadwy, iechyd a lles, cyrhaeddiad addysgol a chefnogi cymunedau difreintiedig a phlant a theuluoedd.
Dyma’r dangosyddion allweddol a gyhoeddwyd yn yr adroddiad heddiw:
•Am y tro cyntaf erioed mae gan dros hanner yr oedolion yng Nghymru gymhwyster Safon Uwch neu gymhwyster cyfatebol.
•Gostyngiad cyson yng nghyfraddau’r marwolaethau o glefyd cylchrediad y gwaed dros y ddegawd ddiwethaf ynghyd â gostyngiad cyson yn y cyfraddau marwolaeth canser. Cymru sydd wedi dangos y gwelliant mwyaf o ran goroesi canser o bedair gwlad y Deyrnas Unedig.
•Ar 31 Mawrth 2013, roedd 60.3 y cant o dai cymdeithasol yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru sy’n cynnwys gwella ffenestri a drysau, moderneiddio ceginau ac ystafelloedd ymolchi a gosod system wresogi well os oes angen.
•Cynnydd cyson i gyrraedd y ganran uchaf erioed o ddisgyblion ysgolion uwchradd sy’n cael eu hasesu yn y Gymraeg fel eu hiaith gyntaf ar ddiwedd blwyddyn naw.
•Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged o roi 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ar strydoedd Cymru ym mis Hydref 2013.
Mae’r data ar Dwf Swyddi Cymru yn yr adroddiad yn dangos bod y rhaglen hon, sef prif raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogaeth i bobl ifanc, wedi creu 13,223 o gyfleoedd gwaith ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru ers iddo gael ei greu ym mis Ebrill 2012. Mae dros 5,000 o’r swyddi hynny wedi’u creu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.