- Gorffennaf 8, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category:
Mae arweinwyr awdurdodau lleol o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cwrdd yn Stadiwm y Mileniwm wythnos yma i drafod gweledigaeth a chyfeiriad y ddinas-ranbarth newydd.
Trefnir y cyfarfod gan Roger Lewis, Cadeirydd Bwrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a bydd yn croesawu arweinwyr ac uwch swyddogion o bob un o’r 10 awdurdod lleol yn y Rhanbarth, sy’n ymestyn o Ben-y-bont yn y gorllewin i Sir Fynwy yn y dwyrain.
Wrth siarad cyn y cyfarfod, meddai Roger Lewis:
“Yr hyn sydd wrth wraidd y fenter hon yw’r ddealltwriaeth ein bod yn gryfach gyda’n gilydd ar lefel dinas-ranbarth. Fel arall, mae gwir berygl y gallai Cymru gael ei gadael ar ôl wrth i ddinas-ranbarthau eraill ym Mhrydain ddatblygu.
“Mae’n hynod bwysig ein bod yn cydweithio â rhanddeiliaid i lunio’r fframwaith darparu priodol. Mae Bwrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu trefniadau ffurfiol i ymgysylltu â rhanddeiliaid a phartneriaid yn y Rhanbarth, ac mae’r cyfarfod heddiw yn rhan o hynny.”
Ychwanegodd Mr Lewis,
“Testun calondid mawr i mi yw fy mod yn gweld yn y myrdd gyfarfodydd rwy’n eu cael gyda phob math o gyrff, mudiadau a grwpiau cymunedol bod cymaint o gefnogaeth i’r trywydd hwn. Yn ddi-os, bydd yn arwain at gysylltu, cyfathrebu a chydlynu gwell ar draws y rhanbarth.”
Cafodd Bwrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ei sefydlu gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Edwina Hart i roi cyfeiriad strategol ac i annog cydweithio, hynny i wireddu’r uchelgais cytûn o swyddi a thwf. Mae’n golygu gweithio gydag awdurdodau lleol, busnesau lleol ac eraill i glustnodi a blaenoriaethu prosiectau sydd â’r gallu i weddnewid. Bydd hynny’n gofyn am gydweithio â phartneriaid o bob rhan o’r Rhanbarth.