- Hydref 6, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Gan lansio ei hail adroddiad blynyddol, mae Ruth Hussey yn amlinellu’r camau y mae angen i’r genedl eu cymryd i fynd i’r afael â phroblemau iechyd y boblogaeth, yn cynnwys gordewdra, sy’n cyfrannu at lawer o afiechydon cronig.
Yn ôl ei hadroddiad, mae dros chwarter y plant sy’n bedair i bum mlwydd dros bwysau neu’n ordew, tra bo 22% o oedolion yn ordew. Mae’r lefelau gordewdra yn uwch mewn ardaloedd mwy di-fraint. Gallai gwahardd hysbysebion bwyd sothach ar y teledu ac ar y rhyngrwyd helpu i fynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Dywed Dr Hussey hefyd y bydd rhoi isafswm pris uned o 50c ar waith yng Nghymru yn helpu i fynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod pris alcohol yn cyfrif ac wrth i alcohol ddod yn sylweddol fwy fforddiadwy yn ystod y degawdau diwethaf, mae nifer y marwolaethau a’r afiechydon sy’n gysylltiedig ag ef wedi cynyddu hefyd.
Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn croesawu’r cynnydd a wnaed o ran gostwng cyfraddau ysmygu yng Nghymru gyda chanran yr oedolion a oedd yn ysmygu yn gostwng o 23% i 21% rhwng 2012 a 2013. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i adeiladu ar y cynnydd hwn gyda chynlluniau i wahardd ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant. Mae hefyd am weld mwy o bwyslais ar weithgarwch corfforol – mae’n hanfodol i iechyd a lles da.
Byddai’r cyfuniad o fabwysiadu’r pedair ffordd iach o fyw yn gwella iechyd yng Nghymru yn sylweddol. (Dim ysmygu, Dim yfed mwy na’r canllawiau, Bwyta pump neu ragor o ddognau o ffrwythau a llysiau bob dydd, Bod yn gorfforol egnïol bum diwrnod yr wythnos fan leiaf)
Mae’r adroddiad yn amlygu ymddygiad iechyd oedolion yn 2013, gan gynnwys:
•42% wedi yfed mwy na’r canllawiau dyddiol yn yr wythnos flaenorol.
•26% wedi goryfed mewn pyliau (ddwywaith gymaint â’r canllawiau dyddiol) yn yr wythnos flaenorol.
•67% wedi bwyta llai na phum dogn o ffrwythau a llysiau y diwrnod blaenorol.
•34% heb fod yn gorfforol egnïol ar unrhyw ddiwrnod yn yr wythnos flaenorol.
•58% dros bwysau neu’n ordew.
•22% yn ordew.
Mae’r canfyddiadau eraill yn cynnwys:
•Mae poblogaeth Cymru yn parhau i fyw’n hirach a’r disgwyliad oes i ddynion yw 78.2 oed ac 82.2 oed i fenywod.
•Mae mwy o bobl hŷn nag o blant yng Nghymru bellach; mae 18 y cant o’r boblogaeth o dan 16 oed ac mae 19 y cant yn 65 oed ac yn hŷn.
•Mae marwolaethau osgoadwy wedi gostwng o flwyddyn i flwyddyn yng Nghymru ers 2001.
•Mae’r rhan fwyaf o oedolion yng Nghymru yn dweud bod eu hiechyd yn gyffredinol dda. Yn 2013, dywedodd 80 y cant hyn, er i draean o’r oedolion (33 y cant) hefyd ddweud bod eu gweithgareddau beunyddiol yn cael eu cyfyngu oherwydd problem iechyd neu anabledd tymor hir.
Dywedodd Ruth Hussey:
“Fy adroddiad blynyddol i yw archwiliad blynyddol Cymru, ac mae’n rhoi darlun i ni o’n hiechyd a’r hyn y mae angen i ni ei wneud i’w wella. Does dim dianc rhag y ffaith bod gormod ohonom ddim yn gwneud digon i ofalu am ein hiechyd.
“Mae gordewdra yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni i gyd ei wynebu. Mae’n cyfrannu at lawer o afiechydon cronig, o ddiabetes math 2 i glefyd cardiofasgwlar. Mae’n costio £73 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru. Mae gordewdra’n effeithio hefyd ar y rhai mwyaf di-fraint.
“Mae pobl yn bwyta mwy o fwyd wedi’i brosesu a bwyd sothach. Mae siwgr yn aml ynghudd mewn bwydydd sydd wedi’u prosesu ac nid yw’n darparu dim gwerth o ran maeth. Mae’r diwydiant hysbysebu’n bwerus iawn yn dylanwadu ar blant yn benodol i fwyta bwydydd afiach. Un cam a fyddai’n gweithio’n dda i gyfyngu ar y dylanwad hwn fyddai gwahardd hysbysebu pob bwyd sothach cyn y gwahanfur am 9pm, er mwyn i blant fod yn llai agored i’r math hwn o farchnata. Dylid gwahardd hysbysebion bwyd sothach drwy’r amser ar wasanaethau ‘ar alw’ ar y rhyngrwyd hefyd. Byddwn yn croesawu unrhyw symud i’r cyfeiriad hwn ar lefel y DU.
“Er gwaethaf arwyddion calonogol bod cyfraddau ysmygu wedi gostwng i 21 y cant, ymhlith y cymunedau mwyaf di-fraint y gwelir y patrwm ysmygu ar ei gryfaf o hyd. Mae’n hanfodol i ni fel cymdeithas fynd i’r afael â’r achosion sydd wrth wraidd afiechyd. Mae angen i ni ganolbwyntio’n ddigyfaddawd ar waith atal, ar ansawdd gofal iechyd ac ar ddod â’n hymdrechion i leihau afiechyd a thlodi’n nes at ei gilydd. Yr un nodau sydd flaenaf yn fy nghyngor eleni.”