- Rhagfyr 10, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category:
Mae ActiveQuote – brocer cynnyrch yswiriant iechyd a diogelu sydd â’i safle cymharu prisiau ei hun – yn prysur ehangu ac yn creu rhagor na 70 o swyddi newydd gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Mae ActiveQuote wedi datblygu ei feddalwedd soffistigedig ei hun i gymharu prisiau ar-lein ar gyfer cynnyrch yswiriant arbenigol ac yn defnyddio’i blatfform technoleg i ddarparu gwasanaethau ar ran rhai o gwmnïau ‘aggregator’’ mwyaf Prydain.
Mae’r busnes o Fae Caerdydd wedi ennill pedwar contract mawr yn ddiweddar i gynnal safleoedd cymharu prisiau yswiriant iechyd ac yswiriant diogelu ar ran Confused.com, GoCompare, Money.co.uk ac uSwitch.
Mae Llywodraeth Cymru’n darparu £600,000 o gyllid busnes i helpu i greu 74 o swyddi newydd ac yn sicrhau mai yng Nghymru y mae’r ehangu’n digwydd yn hytrach na thramor.
Mae’r cwmni eisoes wedi creu 32 o’r 74 o swyddi newydd a rhagwelir y bydd yn cyflogi 100 o bobl erbyn y Flwyddyn Newydd pan fydd yn symud o Sgwâr Mount Stuart i swyddfeydd newydd braf yn Global Reach, Dunleavy Drive, Bae Caerdydd, yn union gyferbyn â lle bydd Arena Iâ Cymru.
Meddai Gweinidog yr Economi Edwina Hart:
“Dyma brosiect cyffrous sy’n creu amrywiaeth o swyddi crefft ar gyfer busnesau un o is-sectorau amlycaf Cymru – safleoedd cymharu prisiau. Mae gan Gymru enw ardderchog erbyn hyn fel lleoliad gwych ar gyfer safleoedd ‘aggregator’ ac yn gartref i nifer o brif safleoedd Prydain.
“Mae ActiveQuote yn gwmni pwysig o fewn y sector ac rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu ei helpu i dyfu. Mae’r cyfan yn newyddion da iawn.”
Cafodd ActiveQuote.com ei sefydlu gan Dr Richard Theo sydd â PhD mewn Rhwydweithiau Cyfrifiadurol o Brifysgol Caerdydd ac sydd wedi defnyddio ei arbenigeddau mewn meddalwedd i greu cynnyrch arloesol ar gyfer gwasanaethau ariannol.
Camodd i lenwi bwlch yn y farchnad pan welodd nad oedd fawr neb yn darparu safleoedd cymharu prisiau yswiriant iechyd, er mai yswiriant iechyd yw’r pumed cynnyrch yswiriant mwyaf poblogaidd ym Mhrydain.
Aeth ActiveQuote ati i arloesi’r safle llawn cyntaf ar gyfer cymharu polisïau a buddiannau yswiriant iechyd er mwyn helpu pobl i gael hyd i’r cyfar sydd ei angen arnynt, yn hytrach na chynnig y rhataf yn unig.
Yn 2012, tyfodd cynnyrch y cwmni i gynnwys yswiriant diogelu incwm ac yswiriant bywyd, a arweiniodd at gynnydd o 410% yn ei drosiant rhwng 2011 a 2013. Enillodd ActiveQuote y wobr gyntaf yn y categori Y Cwmni sy’n Tyfu Gyflymaf yng Nghaerdydd yng Ngwobrau 50 Twf Cyflym Cymru lle cafodd y cwmni ei enwi fel y cwmni sy’n tyfu gyflymaf ond pump yng Nghymru.
Meddai Dr Theo:
“Allwedd ein llwyddiant yw’r ffordd yr ydym wedi arloesi trwy ddefnyddio technoleg i ddatblygu safle i gymharu’r yswiriant iechyd a diogelu gorau. Rydym wedi datblygu system sy’n hawdd ei defnyddio a sydd hefyd yn rhoi cymaint o wybodaeth ac eglurder i gwsmeriaid â phosibl gan ei gwneud hi’n haws o lawer iddynt gymharu cynnyrch yswiriant cymhleth.
“Y dechnoleg hon a phrofiad ac arbenigedd ein staff sydd wedi’n galluogi i ennill contractau gyda rhai o brif safleoedd cymharu Prydain. Rydym am adeiladu ar yr arbenigedd hwn i ddatblygu safleoedd ar-lein newydd ym maes Cynilo a Buddsoddi ar-lein a fydd yn cael ei lansio o dan enw newydd yn 2015.”