- Ionawr 7, 2015
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category:
Gwnaeth y Prif Weinidog gyhoeddiad am y swyddi newydd hyn ddiwedd mis Tachwedd cyn i Uwchgynhadledd Buddsoddi’r DU gael ei chynnal yng ngwesty’r Celtic Manor. Cefnogir y 700 o swyddi newydd gan £3.5 miliwn o Gyllid Busnes Ad-daladwy Llywodraeth Cymru.
Mae Cyllid Busnes Ad-daladwy ar gael i helpu i ariannu buddsoddiad cyfalaf, creu swyddi, ymchwil, datblygiad ac arloesedd a rhai prosiectau refeniw cymwys fel arallgyfeirio i feysydd gweithgaredd newydd.
Dywedodd Carwyn Jones:
“Mae’n wych bod cyllid Llywodraeth Cymru yn mynd i gefnogi cyflogwr pwysig yng Nghymru i greu 700 o swyddi newydd y tu allan i Lundain yn ystod y pum mlynedd nesaf.
“Rydym am wneud Ardal Fenter Canol Caerdydd yn lleoliad o ddewis i wasanaethau ariannol a phroffesiynol yn y DU y tu allan i Lundain. Mae’r swyddi newydd sy’n cael eu creu yng Nghanolfan Ragoriaeth Deloitte yn ganlyniad i’r galw gan y banciau, sefydliadau ariannol a diwydiannau Gwyddorau Bywyd am wasanaethau sy’n gysylltiedig â llywodraethu, risg a chydymffurfiaeth, ac mae croeso mawr i hynny.
“Gobeithio y bydd ein buddsoddiad sylweddol yn Deloitte yn tynnu sylw cwmnïau rhyngwladol eraill sy’n dymuno buddsoddi yng Nghymru. Rydyn ni’n datblygu i fod yn ddewis cyntaf i fusnesau sydd am ehangu eu gweithrediadau ac rydyn ni’n falch o allu cefnogi twf busnesau, gan gryfhau a chyflawni ar gyfer ein heconomi.”
Dywedodd Ross Flanigan, cyfarwyddwr Canolfan Gyflawni Deloitte yng Nghaerdydd:
“Mae gan ein cwmni gynlluniau pwysig ar gyfer twf yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Bydd ehangu gweithrediadau busnes yng Nghaerdydd yn golygu y gall staff sy’n delio â chleientiaid yn uniongyrchol dreulio llawer mwy o’u hamser ar eu gwaith craidd a datblygu perthynas â’r cleientiaid.
“Bydd y ganolfan yn gweithio ar draws ein busnes yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ond hefyd bydd yn cael effaith fawr yn lleol. Rydyn ni’n cynnig gwaith sefydlog a gyrfaoedd sy’n talu’n dda i bobl na fyddent o bosibl wedi dilyn ein llwybrau mwy traddodiadol i raddedigion ac i gyfrifyddiaeth. Er enghraifft, rydyn ni’n datblygu prentisiaethau ac yn edrych ar bosibiliadau cymryd rhan yn y Rhaglen Gwasanaethau Ariannol i Raddedigion Cymru. Ar y cyfan, mae’r ehangu hwn yn wych i Deloitte ac yn hwb aruthrol o ran cyfleoedd i’r gweithlu lleol.”