- Ionawr 27, 2016
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Bydd pecyn cyllid a chymorth gwerth £3 miliwn ar gael gan Lywodraeth Cymru i helpu awdurdodau lleol i roi diwygiadau sylweddol i system gofal cymdeithasol Cymru ar waith pan ddaw deddf arloesol i rym ym mis Ebrill.
Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, gan hybu annibyniaeth pobl i roi llais cryfach a mwy o reolaeth iddynt ar y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen. Bydd hefyd yn annog ffocws o’r newydd ar atal problemau ac ar ymyrraeth gynnar, gan helpu pobl i aros yn annibynnol am gyfnod hirach.
Bydd y cyllid ar gael drwy’r rhaglen Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy: Grant Cyflawni Trawsnewid yn 2016-17, a bydd yn cefnogi’r broses o drosglwyddo i’r trefniadau newydd.
Bydd y grant yn 2016-17 yn canolbwyntio ar sicrhau bod systemau a phrosesau newydd ar waith, a bod y partneriaid i gyd, gan gynnwys y cyhoedd, yn cefnogi’r newidiadau.
Mae’r cyhoeddiad heddiw yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid gwerth £9 miliwn i ariannu awdurdodau lleol ers 2013, drwy gyfrwng prosiectau cydweithredu rhanbarthol.
Dywedodd Mark:
“Bydd y pecyn cymorth o £3 miliwn rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn helpu llywodraeth leol a phartneriaid eraill i roi Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru (2014) ar waith pan ddaw’r Ddeddf i rym ar 6 Ebrill.
“Bydd yn cefnogi trefniadau rhanbarthol a chenedlaethol a sefydlwyd i sicrhau y bydd y Ddeddf yn cael ei rhoi ar waith yn llwyddiannus, er mwyn cyflawni agenda uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.”