Y Dirprwy Weinidog yn rhoi gwybod am y cynlluniau ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru

Roedd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, wedi egluro’r cynlluniau ar gyfer prentisiaethau yn y dyfodol ym mhrif araith cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys canolbwyntio ar gynyddu’r nifer o bobl ifanc 16 i 18 oed sy’n dechrau prentisiaethau, rhoi mwy o sylw i brentisiaethau ar gyfer sgiliau lefel uwch, yn enwedig yn y sector Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM), a synergedd gwell rhwng rhaglenni Addysg Bellach a Phrentisiaethau.

Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog hefyd fod yr ardoll ar brentisiaethau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ar draws y DU gyfan wedi dylanwadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ohirio cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru.

Mae’r ardoll ar brentisiaethau, a gyhoeddwyd gan Ganghellor y Trysorlys, yn dreth i’w thalu ar draws y DU gan yr holl gyflogwyr mawr, gan gynnwys y sector cyhoeddus.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Rydyn ni wedi datblygu system o brentisiaethau sy’n ennyn parch cyflogwyr, ac sy’n cynnig yr ansawdd gorau a’r hyfforddiant gorau. Ond, fel y dangosodd ein hymgynghoriad diweddar ar brentisiaethau, mae lle inni wella mewn perthynas â rhai meysydd.

“Does dim digon o bobl ifanc 16 i 18 oed yn dechrau prentisiaethau. Rhaid i hynny newid, a dyna pam rydyn ni’n bwriadu sicrhau bod ein Rhaglen ar gyfer Recriwtiaid Ifanc yn canolbwyntio ar gefnogi recriwtio mwy o bobl ifanc 16 i 18 oed.

“Cyn gynted ag y byddwn ni wedi rhoi cynlluniau newydd ar waith ar gyfer y grŵp oedran hwn, bydden ni’n disgwyl gweld cynnydd yn y chwe mil a hanner o leoedd y mae’r rhwydwaith yn eu darparu fel arfer.

“Hefyd, mae nifer o’n prentisiaethau mewn sectorau lle mae lefel y sgiliau’n gymharol isel.   Mae hynny’n gwaethygu’r argraff fod prentisiaethau ar gyfer y bobl ifanc hynny nad ydyn nhw’n gallu ymdopi â sgiliau lefel uwch.

“Rhaid inni barhau i gynyddu nifer y prentisiaethau mewn sectorau sy’n flaenoriaeth, a’u hestyn fel eu bod yn diwallu’r prinder sgiliau sy’n ymddangos mewn galwedigaethau technegol sy’n gofyn am sgiliau lefel uwch, fel peirianneg a TG, er mwyn gwella cynhyrchiant.

“Rydyn ni wedi cytuno i ariannu rhai cymwysterau addysg uwch penodol, pan fyddan nhw’n rhan o fframwaith sydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer Prentisiaethau Uwch. Bydd hynny’n cynnig hwb ychwanegol i gyflogwyr ddechrau cyflwyno Prentisiaethau Uwch sy’n gysylltiedig â STEM.

O ran penderfyniad Llywodraeth Cymru i ohirio cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Rwy’n gwbl gefnogol o’r egwyddor y dylai cyflogwyr gyfrannu at gostau prentisiaethau. Ond, mae’r cynigion ar gyfer codi ardoll wedi’u cynllunio heb ystyried y goblygiadau ar gyfer y DU gyfan, ac maen nhw’n ymyrryd ar gyfrifoldebau datganoledig Cymru.

“I’r holl gyflogwyr mawr yng Nghymru, mae’r ardoll yn cynrychioli treth sy’n faich ychwanegol. Hyd yma, dyw Llywodraeth y DU ddim wedi cynnig unrhyw wybodaeth ar yr effaith bosibl ar gyllideb Cymru, felly ar hyn o bryd, dw i ddim yn gallu rhoi unrhyw sicrwydd i gyflogwyr.

“Ond yr hyn sy’n glir am yr ardoll yw ei bod yn rhwystro ein gallu i lunio ein polisi ein hunain. Dyna pam rwy’n gohirio cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru tan inni wybod mwy.”