Treganna: Gwahodd sylwadau ynghylch cynlluniau i sicrhau bod rhagor o dir ar gael ar gyfer rhandiroedd

Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd heddiw at ddibenion ymgynghori. Mae’r Papur hwn yn disgrifio cynigion ynghylch sicrhau bod rhagor o dir ar gael ar gyfer rhandiroedd a gwella cyfleoedd ar gyfer tyfu yn y gymuned. Lansiodd y Gweinidog yr ymgynghoriad yng Ngardd Gymunedol Canton yng Nghaerdydd, sy’n brosiect blaenllaw gan fenter ‘Amgylchedd Cymru’ Llywodraeth Cymru sy’n rhoi cymorth hirdymor i fentrau cymunedol.

Disgrifia’r ddogfen gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer pennu a chyflenwi tir ar gyfer rhandiroedd er mwyn hybu sgiliau, iechyd meddwl ac iechyd corfforol ac er mwyn adfywio cymunedau lleol. Ei nod yw cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiad o safbwynt sicrhau bod rhagor o dir ar gael ar gyfer rhandiroedd ac ategu’r Cynllun Gweithredu Tyfu Bwyd yn y Gymuned.

Bydd yn adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru er mwyn helpu i hybu a hwyluso tyfu cynaliadwy yn y gymuned, fel ”Tyfu Pobl” a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Datblygu Gwledig a’i weithredu gan y Ffederasiwn Ffermydd a Gerddi Dinesig. Nod y Ffederasiwn hwn yw ei gwneud hi’n bosibl i gyfnewid gwybodaeth ac arfer da o fewn y sector tyfu yn y gymuned.

Mae’r cynigion yn cynnwys:

•Darparu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch hybu a chefnogi tyfu bwyd yn y gymuned;

•Sicrhau bod tir sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru ar gael ar gyfer tyfu bwyd yn y gymuned ac annog a chefnogi tirfeddianwyr preifat a chyhoeddus i wneud yr un peth;

•Cefnogi ffermwyr i fynd i’r afael â rhwystrau o safbwynt darparu tir ar gyfer rhandiroedd a thyfu bwyd yn y gymuned;

•Sefydlu hawl i awdurdodau lleol, cynghorau cymuned a grwpiau cymunedol a gyfansoddwyd gofrestru a defnyddio tir cyhoeddus nad yw’n cael ei ddefnyddio, neu dir lle nad yw’r perchennog yn hysbys, at ddiben tyfu bwyd yn y gymuned.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae tyfu bwyd ar gyfer eich hunain ac ar gyfer eich teulu’n weithgaredd arbennig i lawer o bobl yng Nghymru a gall unigolion a grwpiau o bob oedran, ac o bob gallu a modd ariannol, ei fwynhau. Mae bellach yn weithgaredd sy’n fwy poblogaidd nag erioed ac ni all llawer o awdurdodau lleol fodloni’r galw uchel am randiroedd.

“Mae sicrhau bod rhagor o dir ar gael yn allweddol ar gyfer bodloni’r galw hwn ac o safbwynt cyfrannu at les corfforol, meddyliol ac emosiynol. Gall creu cyfleoedd i bobl fwynhau tyfu cynnyrch a garddio hefyd fynd i’r afael â’r cyfyngiadau sydd ynghlwm wrth dlodi, gan rymuso ac adfywio cymunedau a gwella ansawdd bywyd pobl. Gall sicrhau defnydd mwy cynhyrchiol o dir o fewn ein cymuned drwy randiroedd a mannau tyfu hefyd sicrhau manteision cymdeithasol, gan ddwyn cymunedau ynghyd a chynorthwyo i’w hadfywio.

“Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein polisi yn y dyfodol ynghylch rhandiroedd a thyfu yn y gymuned yn bodloni anghenion y bobl a’r cymunedau sy’n eu defnyddio. Byddwn felly’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhandiroedd i fynegi eu barn ynghylch y mater.”

Dywedodd Clare Sain-ley-Berry, Cydgysylltydd ar gyfer Amgylchedd Cymru:

“Mae’n dda gweld cynigion i gynyddu’r tir sydd ar gael ar gyfer rhandiroedd a gerddi cymunedol. Maent yn fannau gwych i gwrdd â ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a byw bywyd mwy iach ac egnïol. Gallant hefyd fod yn gynefin gwerthfawr ar gyfer pryfed peillio a’n bywyd gwyllt cynhenid. Gwnaeth fwy na hanner y prosiectau a ariannwyd gan Amgylchedd Cymru y llynedd ganolbwyntio ar faterion yn ymwneud â bwyd, sy’n tanlinellu’r cyfraniad y gall bwyd a gynhyrchir yn lleol ei wneud o ran gwella lles a mynd i’r afael â thlodi ynghyd â chadernid cymunedol a’r newid yn yr hinsawdd.”

Bydd yr ymgynghoriad yn parhau hyd 6 Hydref 2014.