Sefydlu canolfan arloesi ym maes gwella clwyfau yng Nghymru

Yn rhinwedd ei swydd fel y Gweinidog Iechyd, mae Mark wedi agor yn swyddogol ganolfan newydd sy’n werth miliynau o bunnoedd er mwyn cynnal ymchwil flaenllaw i glwyfau ac a fydd yn gwella gofal cleifion.

Sefydlwyd y Ganolfan Arloesi ym maes Gwella Clwyfau, sydd wedi’i lleoli yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gyda chyllid gwerth mwy na £2.5m gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru i arwain y gwaith ymchwil diweddaraf arloesol i glwyfau a gwella clwyfau.

Mae’r ganolfan yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a phrifysgolion arweiniol yng Nghymru, a bydd yn gweithio gyda’r sector preifat. Bydd yn cynnal ymchwil glinigol a gwyddonol i ddatblygu triniaethau a chynhyrchion newydd ar gyfer clwyfau.

Mae miliynau o bobl o amgylch y byd, yn enwedig pobl hŷn, yn dioddef o glwyfau acíwt, trawmatig a chronig. Yn aml mae clwyfau cronig yn gyflyrau hirdymor, poenus a gwanychol, gan achosi diffyg ansawdd bywyd difrifol i ddioddefwyr. I lawer o bobl sy’n byw gyda chlwyfau sy’n gwrthod gwella, colli’r rhan o’r corff sydd wedi’i heffeithio fydd yr unig opsiwn yn aml.

Nid yw clwyfau cronig mor uchel eu proffil â phroblemau iechyd eraill. Serch hynny, maen nhw’n costio tua £42 biliwn yn fyd-eang bob blwyddyn ac yn cynrychioli 5% o gyllideb iechyd gyfan y DU. Disgwylir i’r broblem dyfu wrth i boblogaeth y byd heneiddio, gan osod pwysau pellach ar wasanaethau iechyd.

Dywedodd Mark:

“Rwyf wrth fy modd o gael agor y ganolfan ymchwil newydd gyffrous hon, a fydd yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer atal a thrin clwyfau. Bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu triniaethau gwell i gleifion a fydd yn gwella ansawdd eu bywyd. Bydd hefyd yn denu buddsoddiad ac yn helpu i greu swyddi yn y sector technoleg feddygol.

“Mae ein poblogaeth yn heneiddio ac mae’r amser a’r gost sy’n gysylltiedig â thrin a rheoli clwyfau yn mynd i gynyddu. Dim ond drwy edrych ar ffyrdd newydd o drin clwyfau y gallwn reoli’r duedd hon a gwella ansawdd bywyd pobl.  Mae’r ganolfan hon yn adeiladu ar sylfaen o arbenigedd yng Nghymru, sydd ag enw da yn rhyngwladol am wella clwyfau.

“Bydd helpu ein system gofal iechyd i weithio’n fwy effeithiol gyda phrifysgolion a diwydiant yn cyfrannu at dwf economaidd, yn ogystal â gwella ein gwasanaethau iechyd a’r gofal a gaiff pobl yng Nghymru.”

Dywedodd cyfarwyddwr newydd y ganolfan, yr Athro Keith Harding, pennaeth Uned Ymchwil Gwella Clwyfau Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd:

“Mae trin clwyfau, boed y rheini’n rhai cronig, acíwt neu drawmatig, yn broblem hynod o ddrud i’n gwasanaethau iechyd – heb sôn am y costau emosiynol ar gleifion a’u teuluoedd. Hyd yn hyn ychydig o sylw gafodd y broblem gan  wneuthurwyr polisi neu gyllidwyr ymchwil, ond bellach mae wedi dod yn epidemig tawel.

“Bydd ein Canolfan newydd yn defnyddio dulliau newydd o wella sut i atal a thrin clwyfau, a gwella ansawdd bywyd cleifion drwy  gael diagnosis a thriniaeth well. Bydd hyn yn arwain at lai o gleifion yn cael eu derbyn i ysbytai ac arhosiad byrrach i gleifion mewn ysbytai, gan leihau’r costau iechyd cyffredinol i’r GIG yng Nghymru.”

Dywedodd yr Athro Harding:

“Rydyn ni eisoes wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth  gyda chwmni rheoli clwyfau yn Awstralia. Gobeithio bydd hyn yn annog cyfleoedd ymchwil ar y cyd ac yn arwain at gyfnewid myfyrwyr. Mae’r ganolfan yn gyfle go iawn i Gymru gael ei chydnabod fel gwlad sy’n arwain y byd o ran gwella clwyfau. Bydd yn cyflogi 31 o bobl i ddechrau ac yn ystod y pum mlynedd nesaf ein nod yw denu o leiaf 11 o fewnfuddsoddiadau gan greu 45 o swyddi arall.”