Mabwysiadu’n digwydd yn gynt, diolch i Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol newydd Cymru

Mae mwy o bobl yn cynnig mabwysiadu ac mae mwy o blant yn cael eu mabwysiadu’n gyflymach yn sgil lansio Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru flwyddyn yn ôl.

Cafodd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru ei sefydlu ym mis Tachwedd 2014 er mwyn cynyddu nifer y mabwysiadwyr posibl a sicrhau bod cymorth o ansawdd da ar gael i’r rhai sydd ei hangen yn dilyn y broses fabwysiadu. Mae’r corff yn hyrwyddo mabwysiadu ac, yn bwysicaf oll, yn helpu i roi’r cyfle i fwy o blant gael dod yn rhan o deulu cariadus a chefnogol.

Ers ei lansio 12 mis yn ôl, mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar blant sy’n derbyn gofal ac ar y rhai sy’n dymuno mabwysiadu:

•yn 2014-15 roedd yn cymryd 16.5 mis ar gyfartaledd i blentyn oedd yn derbyn gofal gael ei leoli gyda mabwysiadwyr, o’i gymharu â 26 mis yn 2013-14

•cafwyd cynnydd o 29% yn nifer y plant sy’n cael eu rhoi i’w mabwysiadu – o 300 yn 2011-12 i 386 yn 2014-15

•cafwyd cynnydd o 51% yn nifer y rhai sy’n mabwysiadu, o 197 yn 2011-12 i 297 yn 2014-15.

Dywedodd Mark, yn rhinwedd ei swydd fel y Gweinidog Iechyd:

“Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru wedi cael dechrau da wrth i lywodraeth leol a’r asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol yng Nghymru gydweithio i sicrhau lleoliadau mwy parhaol gyda theuluoedd ac i wella’r gwasanaethau mabwysiadu.

“Hoffwn i dalu teyrnged i’r teuluoedd hynny sydd wedi bod yn barod i gynnig cariad a sefydlogrwydd teuluol newydd i rai o’n plant mwyaf agored i niwed. Diolch hefyd i waith caled llywodraeth leol yn helpu i sefydlu’r gwasanaeth newydd ac i’r asiantaethau trydydd sector hynny sy’n rhoi’r gefnogaeth hanfodol ac allweddol i’r teuluoedd hyn.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio â’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar raglen waith i ddatblygu dull strategol o ymdrin â mabwysiadu a gwasanaethau cymorth mabwysiadu yng Nghymru. Rhoddwyd £110,000 o gyllid i’r Gwasanaeth i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn, a fydd yn cynnwys:

•datblygu gwasanaethau cymorth mabwysiadu

•cyflwyno hyfforddiant ynglŷn ag ymddygiad treisgar gan blant/pobl ifanc tuag at rieni

•datblygu ymgyrch recriwtio

•gwneud yn siŵr bod mabwysiadwyr a phlant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu yn ymwneud â gwaith y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

Dywedodd Suzanne Griffiths, cyfarwyddwr gweithrediadau’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol:

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn dda i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Rydyn ni wedi gweld mwy o blant nag erioed yn setlo gyda theuluoedd newydd; mae llai o blant yn aros ac mae plant yn cael eu lleoli’n gyflymach.

“Rydyn ni hefyd wedi bod yn ymgynghori â mabwysiadwyr a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu er mwy iddynt allu cyfrannu at sefydlu ein blaenoriaethau. Fe wyddon ni bod gennym fwy i’w wneud, yn enwedig o ran gwasanaethau cymorth mabwysiadu, ond rydyn ni wedi gosod sylfaen dda i adeiladu arni.”

Dywedodd y Cynghorydd Mel Nott OBE, cadeirydd Bwrdd Llywodraethu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol:

“Roedd lansio Gwasanaeth Mabwysiadu Cymru union flwyddyn yn ôl yn garreg filltir bwysig sydd wedi ein galluogi i weithio ochr yn ochr â chydweithio i fynd i’r afael â’r her o drawsnewid y ffordd rydyn ni’n darparu gofal a chymorth i bawb sy’n rhan o’r broses fabwysiadu ar hyd a lled Cymru.

“Mae datblygu a gweithredu gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol wedi dangos ymrwymiad llywodraeth leol i gynnig y dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn, ac mae’n dda iawn gweld arwyddion cynnar o welliant wrth i fwy o blant gael eu lleoli’n gyflymach ac i fwy o fabwysiadwyr gael eu cymeradwyo.

“Dyma’r math o ganlyniadau y mae llywodraeth leol am eu gweld wrth fynd ati i newid y modelau darparu er mwyn rhoi Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar waith.”