Lansio ymgynghoriad ar Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru

Lansiodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, ar Dreth Trafodiadau Tir i gymryd lle Treth Dir y Dreth Stamp y DU yng Nghymru o fis Ebrill 2018.

Mae’r Gweinidog yn annog y cyhoedd, busnesau a rhanddeiliaid ledled Cymru a’r DU i ddweud eu dweud ar y cynigion ar gyfer creu’r dreth Gymreig gyntaf ers dros 800 mlynedd.

Mae amcangyfrifon diweddar Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer 2013-14 yn dangos cyllid o £145 miliwn yng Nghymru ar gyfer Treth Dir y Dreth Stamp, gyda 51,600 o drafodiadau. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y gallai’r cyllid fod yn £231m yng Nghymru yn 2018-19 pan gaiff y dreth ei datganoli.

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am farn ar 28 cwestiwn penodol mewn perthynas â:

•Strwythur, bandiau a chyfraddau trethi ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl;

•Partneriaethau, ymddiriedolaethau a chwmnïau;

•Prydlesi;

•Rhyddhad ac eithriadau;

•Cydymffurfiaeth ac osgoi.

Dywedodd y Gweinidog:

“Bydd hwn yn ymgynghoriad agored a phellgyrhaeddol. Mae’r dreth hon yn effeithio ar gynifer ohonom – fel prynwyr a gwerthwyr tai, adeiladwyr, datblygwyr neu fuddsoddwyr mewn eiddo, busnesau sy’n rhentu eiddo yn y marchnadoedd amhreswyl a’r rheini sy’n chwarae rolau pwysig yn y prosesau trafodiadau.

“Un o’r newidiadau allweddol roeddem yn eu hystyried oedd cael gwared ar drin treth dir y dreth stamp ar ffurf ‘slabiau’, rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi’i newid yn ddiweddar. Er nad ydyn ni am newid er mwyn newid, rwy’n awyddus i ymchwilio i ffyrdd eraill o wella’r system bresennol, gan ei gwneud yn fwy effeithiol, yn fwy effeithlon, ac yn fwy addas i flaenoriaethau ac anghenion Cymru. Mae cyflwyno Treth Trafodion Tir ac Adeiladau yn yr Alban yn dangos bod modd datblygu treth yn ysbryd y dreth y mae’n cymryd ei lle, ond gyda nodweddion go wahanol.

“Rydyn ni’n edrych ar welliannau a allai ei gwneud yn haws i fasnachu yng Nghymru, gan sicrhau y gallwn ni barhau i fod yn ddeniadol i fentrau masnachol. Pan gyhoeddais fy egwyddorion ar gyfer trethi Cymreig, roeddwn i’n glir ei bod yn bwysig datblygu trethi sy’n deg i bobl a busnesau ac yn cefnogi twf a swyddi, a fydd wedyn yn helpu i drechu tlodi a chefnogi cymunedau.

“Mae’n bosibl y bydd cyfran fawr o boblogaeth Cymru yn teimlo effaith y newidiadau i’r dreth hon. Dyna pam fy mod i’n annog pawb i ddweud eu dweud a helpu i greu’r dreth Gymreig gyntaf ers dros 800 mlynedd.”