Cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru’n cyflwyno Bil newydd sy’n pennu nodau hirdymor er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau cenedlaethau’r dyfodol, ac mae’n bosibl mai dyma’r ddeddfwriaeth fwyaf uchelgeisiol y mae wedi ymdrechu i’w llunio erioed.

Dyma oedd neges Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, wrth iddo siarad cyn trafodaeth ar Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Bil, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf, yn amlinellu cyfres o gynigion fydd yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i edrych ar yr effeithiau eu polisïau ar les hirdymor pobl a chymunedau wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau.

Dywedodd y Gweinidog bod gan y Bil y potensial i gael effaith fawr ar y ffordd y mae ein plant, a phlant ein plant yn byw. Dywedodd y bydd y ddeddfwriaeth yn creu newid mawr yn y ffordd y mae cyrff cyhoeddus a’r llywodraeth yn taclo’r heriau mawr sy’n wynebu’r genedl.

Dywedodd Carl Sargeant:

“Mae rhai wedi beirniadu’r Bil gan ddweud ei fod yn “rhy uchelgeisiol” neu’n creu “system fiwrocrataidd ddiangen”. Nid yw hyn yn wir.  Nid yw’r Bil hwn yn ychwanegu haen arall wrth wneud penderfyniadau neu drefniadau llywodraethu newydd; yn hytrach mae’n cryfhau’r trefniadau sydd eisoes ar waith.  Yr unig ffordd y  bydd y Bil hwn yn creu biwrocratiaeth yw os bydd cyrff yn ei ystyried fel ‘ychwanegiad’ i’w gwaith; dyma sy’n rhaid i ni osgoi ar bob cyfrif.

“Bydd yn cymryd amser i newid y ffordd y mae llawer ohonom yn meddwl ac yn gweithio, ond mae’r problemau yr ydym yn ceisio eu taclo’n broblemau hirdymor. Yn fyr, mae’n rhaid i ni yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru ystyried yr hirdymor fel na fydd ein plant a’n hwyrion a’n hwyresau’n gresynu y penderfyniadau a wnawn.”

Nododd y Drafodaeth Genedlaethol ar y Gymru a Garem mai’r newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd naturiol, swyddi a sgiliau yw’r problemau mwyaf sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.

Bydd y Bil yn gosod chwech nod lles clir ac integredig i Gymru mewn cyfraith, gan arwain at Gymru lewyrchus, gydnerth, iachach a mwy cyfartal, â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn helpu cyrff cyhoeddus i wneud dewisiadau gwell a mwy cynaliadwy a diogelu lles cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru hefyd.

Ychwanegodd Carl Sargeant:

“Rydym yn rhoi’r gyfraith newydd hon ar waith fel bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn gallu gweithio tuag at un nod cyffredin – gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru.

“Bydd y ddeddfwriaeth yn golygu bod y cyrff cyhoeddus a restrir yn y Bil yn gorfod gweithio am y tro cyntaf tuag at ein nodau lles cyffredin; nid gwaith y GIG yn unig yw gwneud Cymru’n iachach; mae dyletswydd ar ein holl wasanaethau cyhoeddus i wneud eu rhan. Ni ddylem ddibynnu ar y genhedlaeth nesaf i ddatrys ein problemau.

“Nid yw Cymru ar ei phen ei hun yn ceisio gwneud hyn ond rydym eisoes ar flaen y gad. Y flwyddyn nesaf, bydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn cytuno ar gyfres newydd o Nodau Datblygu Cynaliadwy ar gyfer yr agenda datblygu wedi 2015.  Rydym wedi cadw llygad ar y datblygiadau rhyngwladol er mwyn sicrhau bod yr hyn a wnawn yng Nghymru yn adlewyrchu’r hyn a wna’r Cenhedloedd Unedig.”