- Hydref 6, 2014
- Posted by: Mark Drakeford AM
- Category: Newyddion Cynulliad
Mae’r cyfnod ymgynghori ar rôl Comisiynydd Plant Cymru yn cau’n fuan ac felly mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi wedi galw ar blant, pobl ifanc a theuluoedd i fynd ati a dweud eu dweud.
Daw’r alwad am dystiolaeth i ben ar 17 Hydref 2014 a bydd yn cael ei ymgorffori i adolygiad annibynnol y mae Dr Mike Shooter yn ymgymryd ag ef i rôl a swyddogaethau’r Comisiynydd.
Bwriad yr adolygiad yw edrych yn gyffredinol ar sut a pham y mae rôl a swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru wedi datblygu, pa mor fuddiol fyddai gwneud rhagor o newidiadau iddyn nhw ac a yw’r fframweithiau deddfwriaethol a llywodraethu presennol yn helpu’r Comisiynydd i wneud ei waith yn y ffordd orau bosibl.
Mae’r Gweinidog yn annog pawb sydd â diddordeb, yn enwedig plant a phobl ifanc, i gyfrannu at yr adolygiad pwysig hwn fydd yn llunio rôl y Comisiynydd yn y dyfodol. Mae gwefan wedi cael ei sefydlu sy’n cynnwys arolwg ar-lein ar gyfer grwpiau gwahanol oedran a chyfres o adnoddau i annog pobl i drafod y mater – www.ccfwreview.co.uk.
Dywedodd Lesley Griffiths:
“Rydym ni Gymry’n ymfalchïo yn y ffaith mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i sefydlu rôl Comisiynydd Plant. Mae hynny dros ddegawd yn ôl bellach ac mae wedi creu llais gwirioneddol annibynnol i hybu hawliau a lles plant.
“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod rôl y Comisiynydd yn parhau i fod mor gryf ac effeithiol â phosibl; dyma pham ein bod wedi lansio’r adolygiad pwysig hwn i rôl a swyddogaethau’r Comisiynydd Plant.
“Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb i gyfrannu at yr adolygiad cyn y dyddiad cau – pobl ifanc, rhieni, sefydliadau a phobl broffesiynol fel ei gilydd. Rydym am i bobl sy’n gwybod am y problemau sy’n effeithio ar bobl ifanc, neu sydd wedi cael profiad ohonynt, gymryd rhan lawn yn llunio unrhyw newidiadau ar gyfer y dyfodol.”
Mae nifer o gyfleoedd i gymryd rhan yn yr adolygiad; bydd cyfres o weithdai cynhwysfawr gyda phlant a phobl ifanc yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru, cyfarfodydd wyneb yn wyneb gydag unigolion a chyrff pwysig yn ogystal ag arolwg ar-lein. Bydd adnoddau cysylltiedig ar gael ar wefan yr adolygiad hefyd.