Contribution to the Debate on the Welsh Language

 

Dydd Mercher, 9 Ionawr 2013
Wednesday, 9 January 2013

 

 Mark Drakeford: Mae dadleuon ar yr iaith Gymraeg yn y Cynulliad yn tueddu i ddilyn yr un patrwm. I ddechrau, rydym yn cytuno ar bwysigrwydd yr iaith, ac yna rydym yn symud yn gyflym i ganolbwyntio ar y problemau niferus sy’n ei hwynebu. Rwy’n cytuno bod canlyniadau’r cyfrifiad diweddar yn parhau i lunio darlun o iaith mewn perygl ers canrif a bod angen deialog dwys ac agored, fel yr un a glywsom yma yn y Cynulliad y prynhawn yma, sy’n croesawu pob syniad i gryfhau sefyllfa’r iaith.

 

 

 

 

Mark Drakeford: Debates on the Welsh language in the Assembly tend to follow a standard pattern. We briefly agree on importance of the language, and swiftly move to lament, at length, the many problems it faces. I agree that the recent census results continue to paint a century-long picture of a language in danger, and that it demands a concentrated and open dialogue, as we have heard this afternoon in the Assembly, in which all ideas for strengthening the position of the language are welcome

 

Fodd bynnag, rwyf yn parhau i gredu mai un o’r ffyrdd pwysig y gall hynny ddigwydd yw drwy ddysgu o’n llwyddiant, yn ogystal â’n methiannau. Mewn llawer o ffyrdd, mae’r iaith Gymraeg yn llwyddiant ysgubol. Mae’r ffaith ei bod yn goroesi mewn byd lle mae Saesneg yn dominyddu, a lle mae ieithoedd lleiafrifol yn diflannu drwy’r amser, yn stori ryfeddol ynddi ei hun. Yn sicr, un o’r pethau a fyddai’n syfrdanu fy mam-gu a’m tad-cu, pe baen nhw’n dod yn ôl i Gymru heddiw, yw’r newid mawr ym mhresenoldeb cyhoeddus yr iaith. Wrth reswm, rydym yn bryderus am y lleihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd hynny lle mae’r Gymraeg wedi bod ar ei chryfaf. Er hynny, pan roeddwn yn tyfu lan yn sir Gâr—un o’r ardaloedd Cymraeg ei hiaith—hanner canrif yn ôl, nid oedd presenoldeb cyhoeddus i’r iaith Gymraeg o gwbl mewn archfarchnadoedd a mannau cyhoeddus ac fel rhan normal o fywyd bob dydd.

 

However, I also continue to believe that one of the important ways in which that can happen is to learn from our success as well as our failures. In so many ways, the Welsh language is an outstanding success. Its very survival, in a world dominated by English, and where minority languages are disappearing all the time, is a remarkable story in itself. Certainly, one of the sights that would astonish my grandparents, were they to revisit Wales today, would be the transformation in the public presence of the language. Naturally, we are concerned at the erosion of the number of Welsh speakers in those areas where the Welsh language has been strongest. However, when I was growing up in Carmarthenshire—one of the Welsh-speaking areas—half a century ago, the Welsh language did not have a public presence at all in supermarkets and public places, or as a normal part of everyday life.

 

 

Llwyddiant mawr arall yw’r twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Yn fy etholaeth i, yma yn y brifddinas, mae nifer y plant sy’n cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn parhau i godi ym mhob cymuned, o’r wardiau mwyaf amlddiwylliannol yng Nghymru, yng Nglan yr Afon a Threganna, drwy ystadau Trelái a Chaerau ar gyrion y ddinas lle mae’r ysgol gynradd Gymraeg diweddaraf, Ysgol Nant Caerau, yn orlawn yn barod, i bentrefi mwy gwledig Gwaelod y Garth a Phentyrch. Ym mha bynnag amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd y mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei darparu, mae’r galw’n codi i fanteisio arni. Ar ei ben ei hun, nid yw hyn ddigon, ond mae llwyddiant addysg cyfrwng Cymraeg yn ein galluogi i feddwl heddiw am ffyrdd newydd i ddatblygu’r gallu i siarad Cymraeg, a ddysgwyd yn yr ysgol, mewn agweddau eraill ar fywydau pobl ifanc.

 

Another great success is the growth in Welsh medium education. In my own constituency, here in our capital city, the number of children who receive Welsh-medium education continues to rise in every community, from the most multicultural wards in Wales, in Riverside and Canton, through the outlying estates of Ely and Caerau, where the latest Welsh-medium primary school, Ysgol Nant Caerau, already has more pupils than it can accommodate, to the more rural villages of Gwaelod y Garth and Pentyrch. In whatever set of social and economic circumstances Welsh-medium education is provided, the demand rises strongly to take advantage of it. By itself, it is not enough, but the success story of Welsh-medium education allows us to think, today, about new ways in which we can build on the ability to speak Welsh, acquired in school, in other aspects of young people’s lives.

 

Yn olaf, drwy ddarparu gwasanaethau, rydym yn awr yn meddwl am wasanaethau yn yr iaith Gymraeg fel rhan arferol o’r hyn sydd angen ei ddarparu. Yn ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i wasanaethau gofal preswyl i bobl hŷn, er enghraifft, roedd hyn yn elfen gyson yn ein trafodaethau â thystion a’r rhai sy’n darparu gwasanaethau yn y maes. Nid wyf yn dadlau,  wrth gwrs, bod popeth ar gael ym mhob man yn y ffordd y byddem yn dymuno iddo fod. Yn ôl yn yr 1980au, roeddwn i yn rhan o’r grŵp, o dan arweiniad Hywel Williams—sydd yn awr yn Aelod Seneddol dros Gaernarfon—a oedd yn hybu argaeledd gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein gwasanaethau cymdeithasol. Ar y pryd, y cwestiwn yr oedd pobl yn ei godi gyda ni oedd nid a oedd gwasanaethau o’r fath ar gael ond pam y dylent fod ar gael o gwbl.

 

Finally, in service delivery, we now think of services available in the Welsh language as a routine part of what has to be provided. In the recent inquiry by the Health and Social Care Committee into residential care services for older people, for example, this formed a regular strand in our discussions with witnesses and with those who provide services in the field. I am not arguing, of course, that everything is available everywhere, in the way that we would want it to be. Back in the 1980s, I was part of a group, led by Hywel Williams—now the MP for Caernarfon—that promoted the availability of services through the Welsh language in our social services. At that time, the question that people raised with us was not whether such services were available, but why they should be made available at all.

 

Mae byd gwahanol iawn i’w weld yn y fframwaith strategol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, a lansiwyd ym mis Chwefror y llynedd gan y Gweinidog, Lesley Griffiths. Mae’r fframwaith yn rhoi cyfrifoldeb clir ar  y rhai sy’n darparu gwasanaethau i ymateb i anghenion neu ddymuniad pobl o ran cael gofal drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

What a different world is to be found in the strategic framework for Welsh-language services in health, social services and social care, launched in February last year by the Minister, Lesley Griffiths. The framework places a clear responsibility on those who provide services to respond to people’s needs or wishes to be cared for through the medium of Welsh.