Buddsoddiad arloesol newydd o £500m ar gyfer cyfnod nesaf Ysgolion yr 21ain Ganrif

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Jane Hutt fuddsoddiad arloesol newydd o £500 miliwn ar gyfer cyfnod nesaf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, a fydd yn dechrau yn 2019.

Bwriad Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yw gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu addysg o’r radd flaenaf mewn lleoliadau o safon fyd-eang i holl ddysgwyr Cymru.

Yn ystod dadl yn y cyfarfod llawn ar Gyllideb Ddrafft 2015-16, cadarnhaodd y Gweinidog y byddai’r £500m yn cael ei fuddsoddi drwy’r model buddsoddi nad yw’n dosbarthu elw (NPD), gan ychwanegu at y cynllun NPD yng Nghymru sydd eisoes yn cynnwys ailddatblygu canolfan ganser Felindre a deuoli rhannau 5 a 6 o’r A465. Bydd cyfnod nesaf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – Band B – yn cychwyn ar ôl cwblhau Band A yn 2018-19.

Daw’r buddsoddiad newydd hwn yn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ar ben y £170m o gyllid arloesol drwy’r Fenter Benthyca Llywodraeth Leol, sydd eisoes yn cyflymu Band A y Rhaglen gan ddwy flynedd.

Ddydd Llun (Tachwedd 17), aeth y Gweinidog Cyllid a’r Gweinidog Addysg ar ymweliad â Chymuned Ddysgu Penarth, sydd wedi cael cyllid o £33.3m gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Gymuned Ddysgu yn cynnwys dwy ysgol sydd newydd eu hadeiladu, gyda chyfleuster anghenion addysgol arbennig.

Dywedodd Jane Hutt:

“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol sy’n dangos ein bod ni fel Llywodraeth yn ymrwymedig i gynnig yr amgylchedd dysgu gorau posibl i’n pobl ifanc. Mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cynnig canolfannau dysgu modern a chyfoes ac roeddwn i’n arbennig o falch o gael ymweld â Chymuned Ddysgu Penarth i weld sut mae wedi rhagori yn sgil cael buddsoddiad cyfalaf.

“Bydd cyfnod nesaf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cychwyn yn 2019 a bydd gwaith yn dechrau nawr i gynllunio a pharatoi’r ail gyfnod buddsoddi, lle bydd hanner biliwn o bunnoedd ar gael drwy’r model NPD. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau ein bod yn cyflawni’r canlyniadau rydyn ni eisiau eu gweld – sef parhau i wella ansawdd amgylcheddau dysgu gan ddefnyddio’n hasedau yn fwyfwy gofalus ac effeithiol.”

Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis:

“Mae ein Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cynnig manteision gwirioneddol i ddysgwyr ym mhob cwr o Gymru a bydd y £500m ychwanegol hwn yn ein galluogi i wneud mwy fyth i wella ysgolion.

“Mae’r fath fuddsoddiad sylweddol yn y sefyllfa ariannol heriol sydd ohoni yn dangos ein hymrwymiad i gynnig yr amgylchedd cywir a’r safon orau bosibl o addysg i’n dysgwyr, a rhoi eu lles wrth wraidd ein penderfyniadau.”

Yn ystod y ddadl yn y cyfarfod llawn, tynnodd y Gweinidog Cyllid sylw at sut mae atal problemau ac ymyrraeth gynnar wrth wraidd cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16. Hefyd, tynnodd y Gweinidog sylw at bwysigrwydd mynd i’r afael ag ariannu Cymru.

Ychwanegodd Jane Hutt:

“Rydym yn wynebu dewisiadau anoddach bob blwyddyn, a bydd hyn yn parhau wrth i’r polisi o gynni a thoriadau barhau yn y tymor canolig. Dyna pam ei bod yn hanfodol ystyried ar frys y ffordd y mae Cymru’n cael ei hariannu – fel y mae holl bleidiau’r Cynulliad wedi cytuno. Mae ein pleidlais unfrydol o blaid y cynnig yn galw am ddechrau trafodaethau ar unwaith ynghylch ariannu teg, gyda’r nod o osod cyllid gwaelodol yn fuan, yn cyfleu neges glir ac unedig. Rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y trafodaethau hyn gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”