Bron i 346,000 o gartrefi a busnesau wedi cael band eang drwy brosiect Cyflymu Cymru

Mae rhaglen Cyflymu Cymru wedi cyrraedd hanner ffordd. Mae bron i 346,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru bellach yn gallu cael band eang ffeibr cyflym iawn diolch i’r prosiect, meddai’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.

Mae Cyflymu Cymru, sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a BT, yn dod â band eang ffeibr cyflym i ardaloedd ym mhob cwr o Gymru na fyddai’n gallu cael band eang cyflym fel arall.

Nod Llywodraeth Cymru yw bod gan 96 y cant o eiddo yng Nghymru y gallu i gael band eang ffeibr cyflym erbyn diwedd Gwanwyn 2016. Mae hyn yn golygu y byddai band eang ar gael i fwy o bobl yn gyflymach yng Nghymru nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig.

Mae Cyflymu Cymru yn golygu y bydd gan y rhan fwyaf o gartrefi a busnesau gyflymderau lawrlwytho gwell na 30 megabeit yr eiliad erbyn 2016. Yn wir, bydd 40 y cant o’r holl eiddo yn yr ardaloedd dan sylw yn gallu cael cyflymder o 100 megabeit yr eiliad a gwell.

Yn ogystal â chyrraedd hanner ffordd, cyrhaeddwyd carreg filltir arall y mis diwethaf pan gyhoeddwyd bod 1 miliwn o eiddo yng Nghymru bellach yn gallu cael mynediad at fand eang ffeibr cyflym BT o ganlyniad i brosiect Cyflymu Cymru a gwaith masnachol BT.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James:

“Mae Cyflymu Cymru yn brosiect enfawr. Mae’n golygu gosod 17,500 cilomedr o geblau ffeibr optig a thua 3,000 o gabinetau gwyrdd newydd ar ochr ffyrdd ledled Cymru. Bydd hyn yn galluogi i 691,000 eiddo ledled Cymru allu cael mynediad at fand eang cyflym iawn. Mae’r gwaith hwn yn digwydd yn gyflym yng Nghymru ac mae’n her sylweddol i BT, sydd wrthi’n gweithio’n aruthrol o galed ar lawr gwlad i gyflawni ein hamcanion.

“Y nod yw parhau i weithio’n galed ac yn gyflym tan ddiwedd Gwanwyn 2016. Erbyn mis Medi eleni, bydd gwaith yn digwydd ym mhob ardal gyfnewidfa yng Nghymru. Bob dydd, mae gan fwy a mwy o gartrefi a busnesau’r dewis o gael mynediad at fand eang cyflym iawn ac wrth i ni oresgyn rhwystrau daearyddol a rhwystrau eraill, caiff mwy fyth fynediad at y band eang ffeibr newydd.”