Bil arloesol yn torri tir newydd wrth osod anghenion tymor hir wrth galon penderfyniadau cyhoeddus yng Nghymru

Cymerwyd y cam cyntaf gan Lywodraeth Cymru – a’r cyntaf gan unrhyw un o weinyddiaethau’r DU – i osod cyfres o nodau uchelgeisiol ar gyfer cyrff cyhoeddus mewn cyfraith, nodau sy’n addas ar gyfer heddiw a chenedlaethau i ddod, yn ôl y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Jeff Cuthbert.

Bydd Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru; awdurdodau lleol; parciau cenedlaethol; gwasanaethau tân ac achub a byrddau iechyd, i wneud penderfyniadau sy’n gadael etifeddiaeth gadarnhaol i’n plant, ac i blant ein plant. Mae’n gofyn i bawb feddwl mewn ffordd wahanol a chynllunio dros gyfnod hirach. Mae’r Bil hefyd yn gofyn i ni gynllunio er mwyn helpu i atal heriau cyn iddynt godi, a bachu unrhyw gyfleoedd sy’n ymddangos.

Dywedodd Jeff Cuthbert:

“Bydd y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod nodau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol uchelgeisiol ar gyfer y tymor hir, er mwyn adlewyrchu’r Gymru rydyn ni am ei gweld, heddiw ac yn y dyfodol.

“Drwy osod y nodau hyn mewn cyfraith, bydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru’n gweithio tuag at sicrhau Cymru lewyrchus, gydnerth, iachach, mwy cyfartal, â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

“Pwrpas y Bil unigryw hwn yw gweld ein cenhedlaeth ni yn cymryd cyfrifoldeb dros wella llesiant Cymru a darparu Cymru gynaliadwy heddiw ac ar gyfer y degawdau nesaf.”

Am y tro cyntaf yn unrhyw le yn y DU, bydd y Bil hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus edrych ar yr hyn y maent yn ei wneud yn y tymor hir fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau. Nid rhywbeth unigryw i Gymru yw’r heriau  sydd o’n blaen; maent yn gyffredin ar draws y byd datblygedig. Wrth roi sylw iddynt, byddwn yn gosod y safon fel gwlad lle mai llesiant pobl, yr amgylchedd, yr economi a’r cymunedau yw ein blaenoriaeth uchaf.

Rhywbeth allweddol i’r Bil yw dealltwriaeth o’r hyn y mae pobl am ei weld. Yn gynharach eleni, gofynnodd y Gweinidog i’r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, Peter Davies, gynnal Sgwrs Genedlaethol beilot ar ‘Y Gymru a Garem’. Nod y sgwrs yw trafod gyda phobl a gwella’n dealltwriaeth o’r materion tymor hir a all wynebu cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd Mr Davies yn cyflwyno’r adroddiad interim cyntaf o’r Sgyrsiau Cenedlaethol sydd wedi cael eu cynnal hyd yma. Bydd y Bil yn sefydlu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol annibynnol, statudol i Gymru, a fydd yn cynhyrchu adroddiad mewn perthynas â diogelu anghenion cenedlaethau’r dyfodol, ar ôl trafod gyda dinasyddion Cymru mewn sgyrsiau cyson.

Ychwanegodd Jeff Cuthbert:

“Rydyn ni’n gosod nodau ar gyfer llesiant Cymru yn y tymor hir. Mae hyn yn cynnwys pobl a chymunedau, ein heconomi a’n hamgylchedd.

“Yn hytrach na gwneud penderfyniadau tymor byr dros gyfnod o bedair neu bum mlynedd tymor y llywodraeth, rhaid i ni newid i wneud penderfyniadau a fydd yn cael effaith gadarnhaol yn y tymor hir.

“Ein gweledigaeth yw gweld newid sylweddol wrth ddarparu gwasanaethau, ac yn hytrach na cheisio goresgyn problemau ar ôl iddynt ddigwydd, ceisio gweithredu’n gynnar er mwyn diogelu a gwella ein heconomi, cymdeithas a’r amgylchedd.”

Un enghraifft yw’r gwaith i hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw ac ymgyrchoedd ar ordewdra, ysmygu ac alcohol er mwyn helpu i wella iechyd pobl a helpu i reoli’r galw ar y Gwasanaeth Iechyd yn y dyfodol.

Er nad oes modd i ni ragweld digwyddiadau yn y dyfodol, er enghraifft effaith digwyddiadau rhyngwladol fel y Dirwasgiad, bydd y Bil yn newid y gyfraith er mwyn darparu trefn lywodraethu gadarnach i sicrhau Cymru lewyrchus, gydnerth, iachach, mwy cyfartal â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.